Anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol

math o anhwylder personoliaeth

Anhwylder personoliaeth a nodweddir gan batrwm hirdymor o ddiystyru neu dorri hawliau pobl eraill yw anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol (antisocial personality disorder ASPD) yn ogystal ag anhawster i gynnal perthynas hirdymor.[1] Nodweddir yr anhwylder gyda diffyg cydwybod neu gydwybod wan yn aml, yn ogystal â hanes o dorri rheolau a all weithiau arwain at dorri'r gyfraith, tueddiad i gamddefnyddio sylweddau,[1] ac ymddygiad byrbwyll ac ymosodol.[2][3] Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn aml yn dechrau cyn fod y plentyn yn 8 oed, ac mewn bron i 80% o achosion ASPD, bydd yn datblygu ei symptomau cyntaf cyn ei ben-blwydd yn 11 oed.[4]

Anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol
Ym 1904, archwiliodd Emil Kraepelin yn wyddonol y mathau o bersonoliaethau am y tro cyntaf, a fu'n sail ar gyfer diffinio a diagnosio'r anhwylder hwn.
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathanhwylder personoliaeth (clwstwr B), anhwylderau personoliaeth, clefyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae nifer yr achosion o ASPD ar ei uchaf ymhlith pobl 24 i 44 oed, ac yn aml yn gostwng ymhlith pobl 45 i 64 oed.[4] Yn yr Unol Daleithiau, amcangyfrifir bod cyfradd anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol yn y boblogaeth rhwng 0.5 a 3.5 y cant[1]. Fodd bynnag, gall y lleoliad ddylanwadu'n fawr ar nifer yr achosion o ASPD. Mewn astudiaeth gan Donald W. Black MD, canfu sampl ar hap o 320 o droseddwyr sydd newydd eu carcharu fod ASPD yn bresennol mewn dros 35 y cant o'r rhai a archwiliwyd.[5]

Diffinnir anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol yn y Llawlyfr Diagnostig ac Ystadegol o Anhwylderau Meddyliol (DSM), tra bod y cysyniad cyfatebol o anhwylder personoliaeth anghymdeithasol (DPD) wedi'i ddiffinio yn y Dosbarthiad Ystadegol Rhyngwladol o Glefydau a Phroblemau Iechyd Cysylltiedig (ICD); y prif wahaniaeth damcaniaethol rhwng y ddau yw bod anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol yn canolbwyntio ar ymddygiadau gweladwy, tra bod anhwylder personoliaeth anghymdeithasol yn canolbwyntio ar ddiffygion affeithiol (affective deficits).[6] Fel arall, mae'r ddau lawlyfr yn darparu meini prawf tebyg ar gyfer gwneud diagnosis o'r anhwylder.[7] Mae'r ddau hefyd wedi datgan bod eu diagnosis yn cynnwys seicopathi neu sociopathy. Fodd bynnag, mae rhai ymchwilwyr wedi gwahaniaethu rhwng cysyniadau anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol a seicopathi, gyda llawer o ymchwilwyr yn dadlau bod seicopathi yn anhwylder sy'n gorgyffwrdd ag ASPD ond y gellir ei wahaniaethu oddi wrth ASPD.[8][9][10][11][12]

Arwyddion a symptomau golygu

Diffinnir anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol mewn person drwy iddo anwybyddu'n dreiddiol ac yn barhaus moesau a normau cymdeithasol, a hawliau a theimladau pobl eraill.[2] Er bod ymddygiadau'n amrywio o ran graddau, bydd unigolion sydd â'r anhwylder personoliaeth hwn fel arfer yn cael eu gorfodi i ecsbloetio eraill mewn ffyrdd niweidiol er eu lles neu eu pleser eu hunain, ac yn aml yn trin a thwyllo pobl eraill. Tra bod rhai yn gwneud hynny trwy ffasâd o swyn arwynebol, mae eraill yn gwneud hynny trwy ddychryn a thrais.[13]"Antisocial Personality Disorder" (yn Saesneg). New York City: Sussex Publishers. Cyrchwyd 18 February 2018.</ref> Gallant ddangos haerllugrwydd a gallant feddwl yn wel ac yn negyddol am eraill, a diffyg edifeirwch am eu gweithredoedd niweidiol a bod ag agwedd ddideimlad tuag at y rhai y maent wedi'u niweidio.[2][3] Mae diffyg cyfrifoldeb yn nodwedd graidd o'r anhwylder hwn; caiff y rhan fwyaf o bobl anawsterau sylweddol o ran cynnal cyflogaeth sefydlog yn ogystal â chyflawni eu rhwymedigaethau cymdeithasol ac ariannol, ac mae pobl â'r anhwylder hwn yn aml yn ceisio elwa ar eraill ac yn byw bywydau anghyfreithlon neu barasitig.[2][3][14][15]

Mae'r rhai ag anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol yn aml yn fyrbwyll ac yn ddi-hid, gan fethu ag ystyried canlyniadau eu gweithredoedd. Gallant ddiystyru a pheryglu eu diogelwch eu hunain a diogelwch eraill dro ar ôl tro, gan roi eu hunain a phobl eraill mewn perygl.[2][3][16] Maent yn aml yn ymosodol ac yn elyniaethus, gyda thymer gwyllt na ellir ei reoli'n dda, a gallant fod yn dreisgar, yn profocio erill i ymateb ac yn rhwystredig.[2][15] Mae unigolion yn agored i anhwylderau defnyddio sylweddau a dibyniaeth ar gyffuriau, ac mae'r defnydd anfeddygol o sylweddau seicoweithredol amrywiol yn gyffredin yn y boblogaeth hon. Gall yr ymddygiad hwn, mewn rhai achosion, arwain unigolion o’r fath i wrthdaro cyson â’r gyfraith, ac mae gan lawer o bobl ag ASPD hanes helaeth o ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau sy’n deillio’n ôl i'w llencyndod neu eu plentyndod.[2][3][17][15]

Anhwylder ymddygiad golygu

Er bod anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol yn anhwylder meddwl sy'n cael ei ddiagnosio pan fo'r unigolyn yn oedolyn, mae ei gynsail wedi'i osod yn reit solat yn ystod plentyndod.[18] Mae meini prawf DSM-5 ar gyfer ASPD yn mynnu bod gan yr unigolyn broblemau ymddygiad sy'n amlwg erbyn ei fod yn 15 oed.[13]"Antisocial Personality Disorder" (yn Saesneg). New York City: Sussex Publishers. Cyrchwyd 18 February 2018."Antisocial Personality Disorder". </ref> Gelwir ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus, yn ogystal â diffyg sylw at eraill yn ystod plentyndod a llencyndod, yn anhwylder ymddygiad (conduct disorder; CD) ac mae'n rhagflaenu ASPD.[19] Bydd tua 25-40% o bobl ifanc ag anhwylder ymddygiad yn mynd ymlaen i gael diagnosis o ASPD pan fyddant yn oedolion.[20]

Mae anhwylder ymddygiad yn anhwylder sy'n cael ei ddiagnosio yn ystod plentyndod neu lencyndod yn debyg i'r nodweddion a geir yn ASPD ac a nodweddir gan batrwm ymddygiad ailadroddus a pharhaus lle mae hawliau sylfaenol eraill neu reolau a normau mawr yn cael eu torri. Mae plant sydd â’r anhrefn yn aml yn arddangos ymddygiad byrbwyll ac ymosodol, gallant fod yn ddideimlad a thwyllodrus, a gallant gymryd rhan dro ar ôl tro mewn mân droseddau megis dwyn neu fandaliaeth neu ymladd â phlant ac oedolion eraill.[21] Ailadroddir yr ymddygiad hwn dro ar ôl tro, a gall fod yn anodd ac ni ellir ei atal drwy fygythiad neu gosb. Mae anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (attention deficit hyperactivity disorder; ADHD) yn gyffredin yn y boblogaeth hon, a gall plant â'r anhwylder hwn arnynt hefyd ddefnyddio sylweddau.[22][23] Mae CD yn wahanol i anhwylder herfeiddiol gwrthwynebol (ODD) yn yr ystyr nad yw plant ag ODD yn cyflawni gweithredoedd ymosodol neu wrthgymdeithasol yn erbyn pobl, anifeiliaid ac eiddo eraill, er bod llawer o blant sy'n cael diagnosis ODD yn cael eu hail-ddiagnosio â CD wedi hynny.[24]

Nodwyd dau ddatblygiad, neu ddau gwrs o CD yn seiliedig ar yr oedran y mae'r symptomau'n xael eu hamlygu. Gelwir y cyntaf yn "fath plentyndod" ac mae'n digwydd pan fydd symptomau anhwylder ymddygiad yn bresennol cyn bod yn 10 oed. Cysylltir y cwrs hwn yn aml â chwrs bywyd mwy parhaus ac ymddygiadau mwy treiddiol, ac mae plant yn y grŵp hwn yn mynegi lefelau uwch o symptomau ADHD, diffygion niwroseicolegol, mwy o broblemau academaidd, mwy o gamweithredu teuluol, a thebygolrwydd uwch o ymddygiad ymosodol a thrais.[25] Gelwir yr ail yn "fath glasoed" ac mae'n digwydd pan fydd anhwylder ymddygiad yn datblygu ar ôl eu pen-blwydd yn 10 oed. O'i gymharu â'r math plentyndod, mae'r symptomau'n fwynach, yn llai eithafol, a cheir llai o nam ar y swyddogaethau gwybyddol ac emosiynol, sy'n bresennol, a gall y math plentyndod o ASPD ddiflannu erbyn oedolaeth.[26][27]

Cyd-forbidrwydd golygu

Mae ASPD yn gyffredin yn cydfodoli â'r amodau canlynol:

O'u cyfuno ag alcoholiaeth, gall pobl ddangos diffygion swyddogaeth flaen (frontal function deficits) mewn profion niwroseicolegol sy'n fwy na'r rhai sy'n gysylltiedig â phob cyflwr.[28] Mae Anhwylder Defnyddio Alcohol yn debygol o gael ei achosi gan ddiffyg ysgogiad a rheolaeth ymddygiad a ddangosir gan gleifion Anhwylder Personoliaeth Gwrthgymdeithasol.[29] Mae cyfraddau ASPD yn dueddol o gofrestru tua 40-50% mewn dynion sy’n gaeth i alcohol ac opiadau.[30] Fodd bynnag, mae'n bwysig cofio nad perthynas achosol mo hon, ond yn hytrach canlyniad credadwy i ddiffygion gwybyddol o ganlyniad i ASPD.

Achosion golygu

Ystyrir bod anhwylderau personoliaeth yn cael eu hachosi gan gyfuniad a rhyngweithiad o ddylanwadau genetig ac amgylcheddol:[31] profiadau cymdeithasol a diwylliannol yn ystod plentyndod a llencyndod sy'n cwmpasu deinameg eu teulu, dylanwad cyfoedion, a gwerthoedd cymdeithasol.[2] Ystyrir bod pobl sydd â rhiant gwrthgymdeithasol neu sy'n gaeth i alcohol yn wynebu risg uwch. Mae cynnau tân, a chreulondeb at anifeiliaid yn ystod plentyndod hefyd yn gysylltiedig â datblygiad personoliaeth gwrthgymdeithasol. Mae'r cyflwr yn fwy cyffredin mewn bechgyn a dynion nag mewn merched, ac ymhlith poblogaethau sydd wedi'u carcharu.[31][13]"Antisocial Personality Disorder" (yn Saesneg). New York City: Sussex Publishers. Cyrchwyd 18 February 2018."Antisocial Personality Disorder". </ref>

Genetig golygu

Mae ymchwil i gysylltiadau genetig mewn anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol yn awgrymu bod gan ASPD rywfaint neu hyd yn oed sail enetig gref. Mae nifer yr achosion o ASPD yn uwch mewn pobl sy'n perthyn i aeold o'r teulu sy'n dioddef o'r anhwylder. Mae astudiaethau deuol wedi nodi dylanwad genetig sylweddol ar ymddygiad gwrthgymdeithasol ac anhwylder ymddygiad.[32]

Triniaeth golygu

Ystyrir bod ASPD ymhlith yr anhwylderau personoliaeth anoddaf i'w trin.[33][34][35] Mae rhoi triniaeth effeithiol ar gyfer ASPD yn cael ei gymhlethu ymhellach oherwydd yr anallu i edrych ar astudiaethau cymharol rhwng seicopathi ac ASPD oherwydd gwahanol feini prawf diagnostig, gwahaniaeth mewn diffinio a mesur canlyniadau a ffocws ar drin cleifion sydd wedi'u carcharu yn hytrach na rhai yn y gymuned.[36] Oherwydd eu gallu isel iawn neu ddiffyg edifeirwch, mae unigolion ag ASPD yn aml yn brin o gymhelliant digonol ac yn methu â gweld y costau sy'n gysylltiedig â gweithredoedd gwrthgymdeithasol.[33] Efallai y byddant ond yn efelychu edifeirwch yn hytrach nag ymrwymo i newid gwirioneddol: gallant fod yn ymddangosiadol ddeniadol ond yn anonest, a gallant ddrwg-drin staff a chyd-gleifion yn ystod triniaeth.[37]  Mae astudiaethau wedi dangos nad yw therapi cleifion allanol yn debygol o fod yn llwyddiannus, ond efallai bod y graddau y mae pobl ag ASPD yn ymatebol (neu beidio ag ymateb) i driniaeth wedi'i orliwio.[38]

Prognosis golygu

Yn ôl yr Athro Emily Simonoff o’r Sefydliad Seiciatreg, Seicoleg a Niwrowyddoniaeth mae yna lawer o newidynnau (variables) sydd wedi’u cysylltu’n gyson ag ASPD, megis: gorfywiogrwydd plentyndod ac anhwylder ymddygiad, troseddoldeb pan yn oedolyn, sgorau IQ is, a phroblemau darllen.[39] Y berthynas gryfaf rhwng y newidynnau hyn ac ASPD yw gorfywiogrwydd plentyndod ac anhwylder ymddygiad. Yn ogystal, mae plant sy'n tyfu i fyny gyda rhagdueddiad o ASPD ac yn rhyngweithio â phlant tebyg, yn debygol o gael diagnosis o ASPD yn ddiweddarach.[40][41] Fel llawer o anhwylderau, mae geneteg yn chwarae rhan yn yr anhwylder hwn ond mae gan yr amgylchedd hefyd rôl fawr yn ei ddatblygiad.

Mae bechgyn ddwywaith yn fwy tebygol o fodloni’r holl feini prawf diagnostig ar gyfer ASPD na merched (40% yn erbyn 25%) a byddant yn aml yn dechrau dangos symptomau o’r anhwylder yn llawer cynharach mewn bywyd.[42] Ni fydd plant nad ydynt yn dangos symptomau o'r clefyd hyd at 15 oed yn datblygu ASPD yn ddiweddarach mewn bywyd.[42] Os bydd oedolion yn dangos symptomau ysgafnach o ASPD, mae'n debygol nad oeddent erioed wedi bodloni'r meini prawf ar gyfer yr anhwylder yn eu plentyndod ac felly ni chawsant erioed ddiagnosis. Yn gyffredinol, mae symptomau ASPD yn dueddol o gyrraedd uchafbwynt yn y glasoed hwyr a'r ugeiniau cynnar, ond yn aml gallant leihau neu wella erbyn iddynt gyrraedd eu 40 oed.[3]

Dadlau golygu

Mae ADHD, ei ddiagnosis, a'i driniaeth wedi bod yn ddadleuol ers y 1970au.[43][44][45] Mae'r dadleuon yn ymwneud â chlinigwyr, athrawon, llunwyr polisi, rhieni, a'r cyfryngau. Mae'r dadleuon yn amrywio: o'r farn y dylid clustnodi ADHD fel ymddygiad normal[46][47] i'r farn bod ADHD yn gyflwr genetig.[48] Mae meysydd eraill sy'n destun dadlau yn cynnwys y defnydd o feddyginiaethau a roddir i blant,[44][49] y dull o ddiagnosis, a'r posibilrwydd o orddiagnosis.[49] Yn 2009, cyhoeddodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal bod y triniaethau a’r dulliau presennol o wneud diagnosis yn seiliedig ar y farn amlycaf o fewn llenyddiaeth academaidd.[50] Yn 2014, siaradodd Keith Conners, un o'r eiriolwyr dros gydnabod yr anhwylder, yn erbyn gorddiagnosis mewn erthygl yn y New York Times.[51] Mewn cyferbyniad, nododd adolygiad o lenyddiaeth feddygol a adolygwyd gan gymheiriaid yn 2014 nad yw ADHD yn cael ei diagnosio'n ddigonol mewn oedolion.[52] Tipyn o gymysgedd barn, felly!

Gyda chyfraddau diagnosis gwahanol iawno wlad i wlad, o dalaith i dalaith ac o fewn hil ac ethnigrwydd, mae rhai ffactorau amheus yn chwarae rhan mewn diagnosis.[53] Mae rhai cymdeithasegwyr yn ystyried ADHD yn enghraifft o glinigeiddio ymddygiad gwyrdroëdig, hynny yw, troi mater nad yw'n berthnasol i feddygaeth heb fod angen.[43][54] Mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr gofal iechyd yn derbyn ADHD fel anhwylder gwirioneddol, o leiaf yn y nifer fach o bobl â symptomau difrifol.[54] Ymhlith darparwyr gofal iechyd mae'r ddadl yn canolbwyntio'n bennaf ar ddiagnosis a thriniaeth yn y bobl sydd â symptomau ysgafn.[54][55][56]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Antisocial personality disorder". nhs.uk (yn Saesneg). 2021-02-12. Cyrchwyd 2021-09-12.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 2.7 Mayo Clinic Staff (2 April 2016). "Overview- Antisocial personality disorder". Mayo Clinic. Cyrchwyd 12 April 2016.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 "Antisocial personality disorder: MedlinePlus Medical Encyclopedia". MedlinePlus. 29 July 2016. Cyrchwyd 1 November 2016.
  4. 4.0 4.1 Black, Donald W (July 2015). "The Natural History of Antisocial Personality Disorder". Canadian Journal of Psychiatry. Revue Canadienne de Psychiatrie 60 (7): 309–314. doi:10.1177/070674371506000703. ISSN 0706-7437. PMC 4500180. PMID 26175389. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4500180.
  5. Black, Donald (May 2010). "Antisocial personality disorder in incarcerated offenders: Psychiatric comorbidity and quality of life". Annals of Clinical Psychiatry 22 (2): 113–120. PMID 20445838. http://www.antoniocasella.eu/archipsy/Black_aspd_2010.pdf.
  6. Handbook of Psychology. John Wiley and Sons. 2003. t. 88.
  7. Farrington, David P.; Coid, Jeremy (2004). Early Prevention of Adult Antisocial Behavior. Cambridge, England: Cambridge University Press. t. 82. ISBN 978-0-521-65194-3. Cyrchwyd 12 January 2008.
  8. Patrick, Christopher J. (2005). Handbook of Psychopathy. Guilford Press. ISBN 9781606238042.
  9. Hare, Robert D. (1 February 1996). "Psychopathy and Antisocial Personality Disorder: A Case of Diagnostic Confusion". Psychiatric Times (New York City: UBM plc) 13 (2). http://www.psychiatrictimes.com/dsm-iv/content/article/10168/54831. Adalwyd 19 May 2017.
  10. "Psychopathy and the DSM-IV criteria for antisocial personality disorder". Journal of Abnormal Psychology 100 (3): 391–8. August 1991. doi:10.1037/0021-843x.100.3.391. PMID 1918618. http://www.psych.utoronto.ca/~peterson/psy430s2001/Hare%20RD%20Psychopathy%20JAP%201991.pdf. Adalwyd 19 May 2017.
  11. Semple, David; Smyth, Roger; Burns, Jonathan; Darjee, Rajan; McIntosh, Andrew (2005). The Oxford Handbook of Psychiatry. Oxford, England: Oxford University Press. tt. 448–449. ISBN 978-0-19-852783-1.
  12. "Psychopathic Personality: Bridging the Gap Between Scientific Evidence and Public Policy". Psychological Science in the Public Interest 12 (3): 95–162. December 2011. doi:10.1177/1529100611426706. PMID 26167886. http://www.psychologicalscience.org/index.php/publications/journals/pspi/psychopathy.html.
  13. 13.0 13.1 13.2 Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw :0
  14. "Antisocial personality disorder". NHS. Cyrchwyd 11 May 2016.
  15. 15.0 15.1 15.2 "Antisocial personality disorder: prevention and management". NICE. March 2013. Cyrchwyd 11 May 2016.
  16. "Differences Between a Psychopath vs Sociopath". World of Psychology (yn Saesneg). 12 February 2015. Cyrchwyd 18 February 2018.
  17. "Antisocial personality disorder". NHS. Cyrchwyd 11 May 2016."Antisocial personality disorder".
  18. Personality and dangerousness : genealogies of antisocial personality disorder. Cambridge, England: Cambridge University Press. 2001. ISBN 978-0521008754. OCLC 52493285.
  19. Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders (arg. 4th). Washington, DC: American Psychiatric Association. 2000.
  20. "The outcome of childhood conduct disorder: implications for defining adult personality disorder and conduct disorder". Psychological Medicine (Cambridge University Press) 22 (4): 971–86. November 1992. doi:10.1017/s003329170003854x. PMID 1488492. https://archive.org/details/sim_psychological-medicine_1992-11_22_4/page/971.
  21. Kupfer, David; Regier, Darrell, gol. (2013). Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders (arg. 5). Washington, DC: American Psychiatric Association. ISBN 978-0890425558.
  22. Hinshaw, Stephen P.; Lee, Steve S. (2003). "Conduct and Oppositional Defiant Disorders". In Mash, Eric J.; Barkely, Russell A. (gol.). Child Psychopathology (arg. 2). New York City: Guilford Press. tt. 144–198. ISBN 978-1-57230-609-7.
  23. "Childhood conduct problems, attention deficit behaviors, and adolescent alcohol, tobacco, and illicit drug use". Journal of Abnormal Child Psychology (Springer Science+Business Media) 23 (3): 281–302. June 1995. doi:10.1007/bf01447558. PMID 7642838. https://archive.org/details/sim_journal-of-abnormal-child-psychology_1995-06_23_3/page/281.
  24. "Evidence for developmentally based diagnoses of oppositional defiant disorder and conduct disorder". Journal of Abnormal Child Psychology 21 (4): 377–410. August 1993. doi:10.1007/bf01261600. PMID 8408986. https://archive.org/details/sim_journal-of-abnormal-child-psychology_1993-08_21_4/page/377.
  25. "Adolescence-limited and life-course-persistent antisocial behavior: a developmental taxonomy". Psychological Review 100 (4): 674–701. October 1993. doi:10.1037/0033-295x.100.4.674. PMID 8255953. https://archive.org/details/sim_psychological-review_1993-10_100_4/page/674.
  26. "Childhood predictors differentiate life-course persistent and adolescence-limited antisocial pathways among males and females". Development and Psychopathology 13 (2): 355–75. June 2001. doi:10.1017/s0954579401002097. PMID 11393651.
  27. "[DSM-5--what has changed in therapy for and research on substance-related and addictive disorders?"]. Fortschritte der Neurologie-Psychiatrie 81 (11): 648–54. November 2013. doi:10.1159/000356537. PMID 24194058. https://www.karger.com/ProdukteDB/miscArchiv/000/356/537/000356537_sm_eversion.pdf. Adalwyd 20 May 2017.
  28. "Frontal brain dysfunction in alcoholism with and without antisocial personality disorder". Neuropsychiatric Disease and Treatment 5: 309–26. April 2009. doi:10.2147/NDT.S4882. PMC 2699656. PMID 19557141. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2699656.
  29. "Alcohol Use Disorder and Antisocial and Borderline Personality Disorders". Alcohol Research: Current Reviews 40 (1): 1. 2019. doi:10.35946/arcr.v40.1.05. PMC 6927749. PMID 31886107. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6927749.
  30. "Antisocial personality disorder in patients with substance abuse disorders: a problematic diagnosis?". The American Journal of Psychiatry 147 (2): 173–8. February 1990. doi:10.1176/ajp.147.2.173. PMID 2405719. https://archive.org/details/sim_american-journal-of-psychiatry_1990-02_147_2/page/173.
  31. 31.0 31.1 "Antisocial Personality Disorder | MentalHealth.gov". mentalhealth.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 18 February 2018.
  32. "Behavioral Genetics: The Science of Antisocial Behavior". Law and Contemporary Problems 69 (1–2): 7–46. 1 January 2006. PMC 2174903. PMID 18176636. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2174903.
  33. 33.0 33.1 Psychotherapy for Personality Disorders. 9 (arg. First). American Psychiatric Publishing. 2000. tt. 1–6. ISBN 978-0-88048-273-8. PMC 3330582. PMID 10608903.
  34. Abnormalities of Personality. Within and Beyond the Realm of Treatment. Norton. 1993. ISBN 978-0-393-70127-2.
  35. Abnormal psychology (arg. Sixth). New York, NY. 2 December 2013. ISBN 9780078035388. OCLC 855264280.
  36. Antisocial personality disorder. 2011.
  37. The American Psychiatric Publishing Textbook of Personality Disorders. American Psychiatric Publishing. 2005. ISBN 978-1-58562-159-0.
  38. "Psychopathy and therapeutic pessimism. Clinical lore or clinical reality?". Clinical Psychology Review 22 (1): 79–112. February 2002. doi:10.1016/S0272-7358(01)00083-6. PMID 11793579. https://archive.org/details/sim_clinical-psychology-review_2002-02_22_1/page/79.
  39. "Predictors of antisocial personality. Continuities from childhood to adult life". The British Journal of Psychiatry: The Journal of Mental Science 184: 118–27. February 2004. doi:10.1192/bjp.184.2.118. PMID 14754823.
  40. "Delinquent Behavior: Systematic Review of Genetic and Environmental Risk Factors". Clinical Child and Family Psychology Review 22 (4): 502–526. December 2019. doi:10.1007/s10567-019-00298-w. PMID 31367800.
  41. "The relationship between adverse childhood experiences (ACE) and juvenile offending trajectories in a juvenile offender sample.". Journal of Criminal Justice 43 (3): 229–41. May 2015. doi:10.1016/j.jcrimjus.2015.04.012.
  42. 42.0 42.1 "Antisocial Personality Disorder". StatPearls [Internet]. Treasure Island (FL): StatPearls Publishing. 23 November 2019.
  43. 43.0 43.1 Encyclopedia of Social Problems. SAGE. 2008. t. 63. ISBN 9781412941655. Cyrchwyd 2 May 2009.
  44. 44.0 44.1 "ADHD and the rise in stimulant use among children". Harvard Review of Psychiatry 16 (3): 151–166. 2008. doi:10.1080/10673220802167782. PMID 18569037.
  45. "Attention deficit hyperactivity disorder: legal and ethical aspects". Archives of Disease in Childhood 91 (2): 192–194. February 2006. doi:10.1136/adc.2004.064576. PMC 2082674. PMID 16428370. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2082674.
  46. National Collaborating Centre for Mental Health (2009). "Attention Deficit Hyperactivity Disorder". Attention Deficit Hyperactivity Disorder: Diagnosis and Management of ADHD in Children, Young People and Adults. NICE Clinical Guidelines. 72. Leicester: British Psychological Society. tt. 18–26, 38. ISBN 978-1-85433-471-8.
  47. "The scientific foundation for understanding attention-deficit/hyperactivity disorder as a valid psychiatric disorder". European Child & Adolescent Psychiatry 14 (1): 1–10. February 2005. doi:10.1007/s00787-005-0429-z. PMID 15756510.
  48. "Hyperactive children may have genetic disorder, says study". The Guardian. 30 September 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 July 2017.
  49. 49.0 49.1 "Attention deficit/hyperactivity disorder: a review and update". Journal of Pediatric Nursing 23 (5): 345–357. October 2008. doi:10.1016/j.pedn.2008.01.003. PMID 18804015. https://archive.org/details/sim_journal-of-pediatric-nursing_2008-10_23_5/page/345.
  50. National Collaborating Centre for Mental Health (2009). "Diagnosis". Attention Deficit Hyperactivity Disorder: Diagnosis and Management of ADHD in Children, Young People and Adults. NICE Clinical Guidelines. 72. Leicester: British Psychological Society. tt. 116–7, 119. ISBN 978-1-85433-471-8.
  51. "The Selling of Attention Deficit Disorder". The New York Times (14 December 2013). 14 December 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 March 2015. Cyrchwyd 26 February 2015.
  52. "Underdiagnosis of attention-deficit/hyperactivity disorder in adult patients: a review of the literature". The Primary Care Companion for CNS Disorders 16 (3). 2014. doi:10.4088/PCC.13r01600. PMC 4195639. PMID 25317367. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4195639. "Reports indicate that ADHD affects 2.5%–5% of adults in the general population,5–8 compared with 5%–7% of children.9,10 ... However, fewer than 20% of adults with ADHD are currently diagnosed and/or treated by psychiatrists.7,15,16"
  53. "The importance of relative standards in ADHD diagnoses: evidence based on exact birth dates". Journal of Health Economics 29 (5): 641–656. September 2010. doi:10.1016/j.jhealeco.2010.06.003. PMC 2933294. PMID 20638739. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2933294.
  54. 54.0 54.1 54.2 Medicating Children: ADHD and Pediatric Mental Health (arg. illustrated). Harvard University Press. 2009. tt. 4–24. ISBN 978-0-674-03163-0.
  55. "Overdiagnosis of mental disorders in children and adolescents (in developed countries)". Child and Adolescent Psychiatry and Mental Health 11: 5. 2017. doi:10.1186/s13034-016-0140-5. PMC 5240230. PMID 28105068. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5240230.
  56. "Attention deficit hyperactivity disorder: overdiagnosed or diagnoses missed?". Archives of Disease in Childhood 102 (4): 376–379. April 2017. doi:10.1136/archdischild-2016-310487. PMID 27821518.

Darllen pellach golygu

Dolenni allanol golygu