Gwroniaid y Ffydd (llyfr)
Mae Gwroniaid y Ffydd a Brwydrau Rhyddid, Gydag Ysgrifau Eraill gan Robert David Rowland (Anthropos) yn llyfr o ysgrifau, yn bennaf am hanes Anghydffurfiaeth a gyhoeddwyd gyntaf ym 1897.[1] Cyhoeddwyd y llyfr gan Hughes a'i Fab, Wrecsam.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Robert David Rowland |
Gwlad | Cymru |
Dyddiad cyhoeddi | 1897 |
Lleoliad cyhoeddi | Wrecsam |
Prif bwnc | Anghydffurfiaeth |
Awdur
golyguRoedd Anthropos (1853?-1944) yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, bardd a llenor. Fe'i magwyd ym mhentref Tyn-y-cefn, ger Corwen. Wedi cyfnod yng Ngholeg y Bala, bu'n gweithio fel athro ysgol yn y Bala am gyfnod, cyn ymuno â staff Yr Herald Cymraeg ac wedyn Y Genedl Gymreig. Bu yn olygydd Y Genedl Gymraeg a Thrysorfa'r Plant. Cafodd ei ordeinio'n weinidog ym 1887 a fu'n gwasanaethu fel gweinidog yng Nghaernarfon.[2]
Gweithiau
golyguYmysg ei gyhoeddiadau eraill mae:
- Y Blodeuglwm (Y Bala, 1878)[3]
- Yn y trên neu, Adgofion trafaeliwr (Caernarfon 1895)[4]
- Oriau yn y Wlad: neu, Gydymaith Gwyliau Haf (Caernarfon, 1898)[5]
- Y Frenhines Victoria: Ei Hanes, ei Nodweddion, ei Dylanwad (Caernarfon, 1901)
- Awel a Heulwen (Caernarfon, 1901)
- Gwlad yr Iesu (Caernarfon, 1903)
- Oriau gygag Enwogion (Wrecsam, 1903)[6]
- Y Faner Wen: Ystori Arbenig i Blant y 'Band of Hope'” (Caernarfon, 1903)
- Y Porth Prydferth (Wrecsam, 1904)
- Telyn Bywyd (Caernarfon, 1904)
- Tŷ Capel y Cwm (Wrecsam, 1905)
- Perlau'r Diwygiad (Caernarfon, 1906)
- Oriau Hamdden: Yng Nghwmni Awduron a Llyfrau (Wrecsam, 1907)
- Y Ffenestri Aur: Oriau yn Nghwmni Natur, Awduron, a Llyfrau (Dinbych, 1907)
- Cadeiriau Enwog (Caernarfon, 1908)[7]
- Camrau Llwyddiant: Trem ar Fywyd Dewi Arfon (Wrecsam, 1909)[8]
- Jim: Yr Arlunydd Bach (Caernarfon, 1909)
- Y Golud Gwell: Adlais o'r Dyddiau Gynt (Wrecsam, 1910)
- Merch y Telynor: Rhamant Gymreig (Wrecsam, 1911)
- Bugail y Cwm (Wrecsam, 1913)
- Y Pentre Gwyn: Ystori Bore Bywyd (Wrecsam, 1915)
- Stryd Ni: Stori Newydd i'r Plant (Caernarfon, 1920)
- Un o Blant y Wlad: Stori i'r Plant (Caernarfon, 1921)
Trosolwg
golyguMae'r llyfr yn cynnwys nifer o erthyglau sy'n olrhain hanes y diwygiad Protestannaidd a'r frwydr am ryddid crefyddol o amser John Wickliffe i'r amser y cyhoeddwyd y llyfr yn oes Fictoria. Mae hefyd yn cynnwys tri thraethawd am natur rhyddid barn a throsolwg o fywyd a gwaith Gwilym Cawrdaf
Gan mae llyfr i bobl ifanc yw Gwroniaid y ffydd, mae'r penodau i gyd yn fyr, dau neu dri o dudalennau yn unig. Oherwydd hyn dim ond cyflwyniad byr i'r enwogion ceir yn y llyfr, yn hytrach na bywgraffiadau cynhwysfawr.
Penodau
golyguMae'r llyfr yn cynnwys 6 adran a 18 o benodau
I. Gwroniaid y Ffydd
Ysgrif am y pwysigrwydd cofio am a dysgu oddi wrth fywydau arweinwyr crefyddol gynt.
Ond os ydyw Cymru i barhau yn "frodir wynfydedig" y mae'n rhaid i'w meibion a'u merched gydnabyddu a hanes y gwroniaid fuont yn ymdrechu hyd at waed i bwrcasu ein rhyddid, ac i sicrhau ein cysuron
II. BRWYDRAU RHYDDID
PENNOD, I. Maes y Frwydr
Hanes John Wickliffe, "Seren foreu" y Diwygiad Protestannaidd yn Lloegr.
PENNOD II. Y Diwygiad Protestanaidd.
Hanes Martin Luther, un o brif sylfaenwyr Protestaniaeth yn Ewrop
PENNOD III. Cyfnod y Merthyron
Hanes Hugh Latimer, Nicholas Ridley a Thomas Cranmer, tri gŵr eglwysig a llosgwyd wrth y stanc yn ystod teyrnasiad Mari I
PENNOD IV. "Pan Oedd Bess Yn Teyrnasu"
Hanes crefydd yn ystod teyrnasiad Elisabeth I. Er ei bod yn Frenhines Brotestannaidd bu'n wrthwynebydd i Anghydffurfiaeth. Dienyddio John Penri am ei Anghydffurfiaeth a'r tadau periniol yn ymfudo i amddiffyn eu rhyddid crefyddol.
PENNOD V. Y Rhyfel, Cartrefol
Oliver Cromwell, John Milton a'r anghydffurfwyr Cymreig gyntaf: William Wroth, Walter Cradoc a Vavasor Powell
PENNOD VI. "Y Dydd Hwnw"
Adferiad Siarl II i'r orsedd a deddfau cydffurfiaeth crefyddol newydd. Troi'r ddwy fil o offeiriaid anghydffurfiol allan o Eglwys Loegr. Hanes John Bunion
PENNOD VII, Dyddiau Cymysg
Erlid yr anghydffurfwyr yn ystod teyrnasiad Iago II. Deddf goddefiad William III
PENNOD VIII. Camrau Rhyddid
Rhai o'r hawliau newydd a enillwyd gan anghydffurfwyr yn ystod Teyrnasiad Victoria
III. Yn Nyddiau Edmwnt Prys
Cyflwyniad i rai o'r arweinwyr anghydffurfiol oedd yn gyd oesi ag Edmwnd Prys (1544-1623). Adolygiad o Salmau Can, Prys.
IV. RHYDDID BARN
Dau draethawd am natur rhyddid barn
PENNOD, I. Barn Bersonol
PENNOD, II. Safle Gymdeithasol
V. Ysbryd Rhyddid
Traethawd am y pwysigrwydd o barhau i frwydro dros ryddid.
VI. GWILYM CAWRDAF
Bywyd a gwaith y bardd a'r "nofelydd" William Ellis Jones (Cawrdaf) (1795 - 1848)
PENNOD I "Awenawg Wr O Wynedd."
PENNOD II "Y Meudwy."
PENNOD III Bwth y Bardd.
PENNOD IV "Y Derwyddon."
PENNOD V Bardd Hiraeth
Argaeledd
golyguGan fu farw'r awdur cyn 1954, mae'r llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.
Mae'r llyfr bellach allan o brint ond mae modd ei ddarllen ar Gwroniaid y Ffydd Wicidestun
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Hysbyseb yn Y Llusern Cyf. V Rhif. 60 Rhagfyr 1897
- ↑ "ROWLAND, ROBERT DAVID ('Anthropos'; 1853? - 1944), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, bardd, a llenor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-05-29.
- ↑ "Y blodeuglwm sef, cyfansoddiadau barddonol a chyfieithiadol R. D. Rowlands (Anthropos), Bala". hdl.handle.net. Syllwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 2024-05-29.
- ↑ "Yn y trên: neu, Adgofion trafaeliwr". Syllwr llyfrau, llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 29 Mai 2024.
- ↑ Oriau yn y Wlad ar Wicidestun
- ↑ Oriau Gydag Enwogion ar Wicidestun
- ↑ Cadeiriau Enwog ar Wicidestun
- ↑ "Camrau llwyddiant: trem ar fywyd Dewi Arfon / gan Anthropos". hdl.handle.net. Syllwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 2024-05-29.