Trwyn y llo

(Ailgyfeiriad o Antirrhinum majus)
Antirrhinum majus
Delwedd o'r rhywogaeth
Planhigyn A. majus yn tyfu ar wal yn Thasos, Gwlad Groeg.
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Lamiales
Teulu: Plantaginaceae
Genws: Antirrhinum
Rhywogaeth: A. majus
Enw deuenwol
Antirrhinum majus
L.

Planhigyn blodeuol yw Trwyn y llo neu Antirrhinum majus. Mae'n perthyn i deulu'r llyriad (Plantaginaceae) yn dilyn ail-ddosbarthiad teulu'r dail duon (Scrophulariaceae). Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Safn y Llew, Ceg Nain, Pen Ci Bach, Trwyn y Llo Mwyaf. Fel gweddill aelodau'r genws Antirrhinum, mae'n gynhenid i ardal y Canoldir.

Disgrifiad

golygu

Planhigyn llysieuaidd lluosflwydd ydi A. majus. Gall dyfu hyd at 0.5–1 m o daldra. Mae'r dail yn waywffurf, 1–7 cm o hyd, ac fe'u trefnir yn droellog ar goes y planhigyn. Mae'r blodau'n tyfu ar ysbigau tal, ac mae pob blodyn tua 3.5-4.5 cm o hyd gyda chymesuredd dwyochrol. Mae pum petal y blodau wedi asio i'w gilydd yn rhannol, gan ffurfio tiwb. Mae pen uchaf pob tiwb wedi ei gau gan ddwy 'wefus', ac mae'n rhaid i beillwyr y blodau (gwenyn gwyllt, neu bumblebees) wthio'r gwefusau hyn oddi wrth ei gilydd er mwyn cyrraedd y neithdar ar waelod y tiwb. Wedi i flodyn gael ei beillio, bydd ffrwyth yn datblygu o'r ofari ar waelod y tiwb. Cibyn (capsule) yw'r ffrwyth hwn, ac wedi iddo sychu, bydd 50-100 o hadau duon bychain yn cael eu gwasgaru drwy ddisgyn i'r llawr. Ar blanhigion gwyllt, mae gan y blodau betalau lliw majenta tywyll, gyda smotyn melyn ar y wefus isaf, ond ceir ystod eang o liwiau mewn mathau gardd.[1]

Fel planhigyn gardd

golygu
 
Planhigyn Antirrhinum majus mewn gardd.

Gall A. majus oroesi tymhereddau isel yn ogystal â rhai uchel, ond mae'n tyfu orau mewn amgylchedd â thymheredd rhwng 17 a 25 °C. Mae'n tyfu'n dda o hadau, gan flodeuo o fewn tri i bedwar mis, neu o doriadau.[2]

Er ei fod yn blanhigyn lluosflwydd mewn natur, fe'i ddefnyddir fel planhigyn blynyddol neu ddwyflynyddol mewn gerddi yn aml, yn enwedig mewn ardaloedd sy'n oerach na'i gynefin naturiol. Mae llawer o fathau gardd ar gael, gan gynnwys rhai â blodau oren, pinc, melyn, coch a gwyn. Ceir hefyd blanhigion â blodau 'pelorig' - gyda blodau â chymesuredd cylch yn hytrach na chymesuredd dwyochrog.[1][3] Mae rhai mathau gardd, megis ‘Floral Showers Deep Bronze[4] a ‘Montego Pink[5] wedi ennill Gwobr Teilyngdod Gardd y Gymdeithas Arddwriaeth Frenhinol (RHS).

Gall y planhigyn hefyd ddianc o erddi, a cheir poplogaethau wedi cynefino ymhell i'r gogledd o ystod naturiol y rhywogaeth [6]

Fel planhigyn ymchwil

golygu

Mae A. majus wedi ei ddefnyddio fel organeb model mewn labordai gwyddonol ers dros ganrif er mwyn astudio datblygiad, biocemeg ac esblygiad.[7] Defnyddiwyd A. majus (ar y cyd ag Arabidopsis thaliana) i astudio sut mae organnau blodau yn datblygu mewn planhigion, a dangoswyd fod tri teulu o enynnau, A, B ac C, yn gyfrifol am roi hunaniaeth benodol i'r bedair organ.[8] Roedd A. majus yn bwysig ar gyfer deall sut mae planhigion yn cynhyrchu cyfansoddion anthocyanin - y rhai sy'n rhoi lliwiau coch, pinc a phiws i flodau a dail.[9] Mae poblogaethau gwyllt o A. majus a'i is-rywogaethau hefyd yn cael eu defnyddio ar gyfer astudio sut mae lliwiau blodau wedi esblygu, ac er mwyn deall sut mae'r amgylchedd yn effeithio ar boblogaethau.[10]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Blamey, M.; Grey-Wilson, C. (1989). The Illustrated Flora of Britain and Northern Europe (yn Saesneg). Hodder and Stoughton. ISBN 0-340-40170-2
  2. Hudson, Andrew; Critchley, Joanna; ac Erasmus, Yvette (2008-10-01) (2008). The genus Antirrhinum (snapdragon): a flowering plant model for evolution and development, Cold Spring Harbor Protocols, Cyfrol 2008, Rhifyn 10 (yn Saesneg), tud. pdb.emo100. DOI:10.1101/pdb.emo100URL
  3. (1992) gol. Huxley, A: New RHS Dictionary of Gardening (yn Saesneg). ISBN 0-333-47494-5
  4. (Saesneg) RHS Plantfinder - Antirrhinum majus ‘Floral Showers Deep Bronze’. Adalwyd ar 12 Ionawr 2018.
  5. (Saesneg) RHS Plantfinder - Antirrhinum majus ‘Montengo Pink’. Adalwyd ar 13 Ionawr 2018.
  6. (Saesneg) Antirrhinum majus. Germplasm Resources Information Network (GRIN). Agricultural Research Service (ARS), Adran Amgylchedd Llywodraeth yr Unol Daleithiau (USDA). Adalwyd ar 27 Rhagfyr 2017.
  7. Oyama, RK; a Baum, D (2004). Phylogenetic relationships of North American Antirrhinum (Veronicaceae), American Journal of Botany, Cyfrol 91, Rhifyn 6, tud. 918–25. DOI:10.3732/ajb.91.6.918
  8. Coen, Enrico S; a Meyerowitz, Elliot M (5 Medi 1991) (1991). The war of the whorls: genetic interactions controlling flower development, Nature, Cyfrol 353 (yn Saesneg), tud. 31-37
  9. Martin, Cathie; Prescott, Andy; Mackay, Steve; Bartlett, Jeremy; a Vrijlandt, Eli (1991). Control of anthocyanin biosynthesis in flowers of Antirrhinum majus, The Plant Journal, Cyfrol 1, Rhifyn 1 (yn Saesneg), tud. 963-966
  10. Whibley, Annabel C; Langlade, Nicolas B; Andalo, Chistophe; Hanna, Andrew I; Bangham, Andrew; Thébaud, Christophe; a Coen, Enrico S (18 Awst 2006) (2006). Evolutionary paths underlying flower colour variation in Antirrhinum, Science, Cyfrol 313, Rhifyn 5789 (yn Saesneg), tud. 963-966
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: