Appenzell Ausserrhoden
Un o gantonau'r Swistir yw Appenzell Ausserrhoden (Ffrangeg: Appenzell Rhodes-extérieures). Saif yng ngogledd-ddwyrain y Swistir, ac roedd y boblogaeth yn 2004 yn 52,976. Prifddinas y canton yw Herisau.
Hanner canton yw Appenzell Ausserrhoden. Mae hyn yn golygu nad oes ganddo ond un cynrychiolydd yn y Ständerat, a bod y canlyniad mewn refferendwm yn cyfrif fel hanner canlyniad canton llawn. Fel arall, mae ganddo'r un hawliau a'r cantonau eraill.
Saif Appenzell Ausserrhoden yn yr Alpau; y copa uchaf yw Säntis, 2,503 medr. Almaeneg yw iaith gyntaf y rhan fwyaf o'r trigolion (91.2%). Crewyd y canton pan rannwyd canton Appenzell yn ddau yn 1597. Amaethyddiaeth yw'r diwydiant pwysicaf, ac mae caws Appenzell yn enwog.
Cantonau'r Swistir | |
---|---|
Cantonau | Aargau • Bern • Fribourg • Genefa • Glarus • Graubünden • Jura • Lucerne • Neuchâtel • St. Gallen • Schaffhausen • Schwyz • Solothurn• Thurgau • Ticino • Uri • Valais • Vaud • Zug • Zürich |
Hanner Cantonau | Appenzell Ausserrhoden • Appenzell Innerrhoden • Basel Ddinesig • Basel Wledig • Nidwalden • Obwalden |