Neuchâtel (canton)
Un o gantonau'r Swistir yw Neuchâtel (Almaeneg: Neuenburg; Ffrangeg: Neuchâtel). Daw'r enw o'r Lladin Novum Castellum (castell newydd). Saif yng ngorllewin y Swistir, ac roedd y boblogaeth yn 2002 yn 166,500. Prifddinas y canton yw dinas Neuchâtel, ond y ddinas fwyaf yw La Chaux-de-Fonds.
Math | Cantons y Swistir |
---|---|
Prifddinas | Neuchâtel |
Poblogaeth | 176,850 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffrangeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Romandy, Espace Mittelland |
Sir | Y Swistir |
Gwlad | Y Swistir |
Arwynebedd | 802.24 km² |
Uwch y môr | 430 metr |
Yn ffinio gyda | Bern, Vaud, Fribourg, Jura, Doubs, Franche-Comté |
Cyfesurynnau | 46.98°N 6.78°E |
CH-NE | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Grand Council of Neuchâtel |
Ffrangeg yw iaith gyntaf y rhan fwyaf o'r trigolion (85.3%); o ran crefydd mae'r mwyafrif yn brotestaniaid.
Saif y canton ym mynyddoedd y Jura, ac mae'n ffinio ar Ffrainc ac ar Lyn Neuchâtel. Mae'r ardaloedd o amgylch Llyn Neuchâtel yn adnabyddus am gynhyrchu gwin.
Cantonau'r Swistir | |
---|---|
Cantonau | Aargau • Bern • Fribourg • Genefa • Glarus • Graubünden • Jura • Lucerne • Neuchâtel • St. Gallen • Schaffhausen • Schwyz • Solothurn• Thurgau • Ticino • Uri • Valais • Vaud • Zug • Zürich |
Hanner Cantonau | Appenzell Ausserrhoden • Appenzell Innerrhoden • Basel Ddinesig • Basel Wledig • Nidwalden • Obwalden |