Jura (canton)
Un o gantonau'r Swistir yw canton Jura (JU). Mae gan y canton hefyd statws gweriniaeth; ei enw llawn yw République et canton du Jura. Saif yng ngogledd-orllewin y Swistir. Prifddinas y canton yw Delémont.
Daeth y Jura yn rhan o'r Swistir yn 1815, trwy benderfyniad Cyngres Fienna, gan ddod yn rhan o ganton Bern. Oherwydd fod Jura yn Ffrangeg ei iaith, a'r gweddill o Bern yn Almaeneg ei iaith, datblygodd ymgyrch i ddod yn ganton ar wahan. Ar 23 Mehefin 1974, pleidleiswyd i greu canton Jura. Cadarnhawyd hyn gan bleidlais y Swistir i gyd yn 1978, a daeth y canton newydd i fodolaeth yn 1979.
Cantonau'r Swistir | |
---|---|
Cantonau | Aargau • Bern • Fribourg • Genefa • Glarus • Graubünden • Jura • Lucerne • Neuchâtel • St. Gallen • Schaffhausen • Schwyz • Solothurn• Thurgau • Ticino • Uri • Valais • Vaud • Zug • Zürich |
Hanner Cantonau | Appenzell Ausserrhoden • Appenzell Innerrhoden • Basel Ddinesig • Basel Wledig • Nidwalden • Obwalden |