Glarus (canton)
Un o gantonau'r Swistir yw Glarus (Almaeneg: Glarus, Ffrangeg: Glaris). Saif yn nwyrain canolbarth y Swistir, ac roedd y boblogaeth yn 2003 yn 38,283. Prifddinas y canton yw dinas Glarus.
Almaeneg yw iaith gyntaf y rhan fwyaf o'r trigolion (85.8%); o ran crefydd mae 42% yn brotestaniaid a 37% yn Gatholigion.
Llifa afon Linth trwy'r canton, ceir llyn y Walensee yma. Yr uchaf o gopaon yr Alpau yn Glarus yw Tödi, 3614 medr o uchder.
Cantonau'r Swistir | |
---|---|
Cantonau | Aargau • Bern • Fribourg • Genefa • Glarus • Graubünden • Jura • Lucerne • Neuchâtel • St. Gallen • Schaffhausen • Schwyz • Solothurn• Thurgau • Ticino • Uri • Valais • Vaud • Zug • Zürich |
Hanner Cantonau | Appenzell Ausserrhoden • Appenzell Innerrhoden • Basel Ddinesig • Basel Wledig • Nidwalden • Obwalden |