Antiochia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: thumb|250px|Muriau Antiochia yn dringo Mons Silpius yng nghyfnod y Croesgadau) Roedd '''Antiochia ar yr Orontes''' (Groeg: Αντιόχεια η ε...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 07:56, 21 Mehefin 2007

Roedd Antiochia ar yr Orontes (Groeg: Αντιόχεια η επί Δάφνη, Αντιόχεια η επί Ορόντου neu Αντιόχεια η Μεγάλη; Lladin: Antiochia ad Orontem; yn ddinas ar lan ddwyreiniol Afon Orontes, ar safle dinas fodern Antakya, Twrci.

Muriau Antiochia yn dringo Mons Silpius yng nghyfnod y Croesgadau)

Sefydlwyd Antiochia tua diwedd y 4ydd ganrif CC gan Seleucus I Nicator, un o gadfridogion Alecsander Fawr. Dywedir i gynllun gwreiddiol strydoedd y ddinas gael ei osod gan y pensaer Xenarius i efelychu dinas Alexandria. Tyfodd i fod yn ddinas fawr a phwysig, yn cystadlu ag Alexandria fel dinas bwysicaf y dwryrain, ac yn ddinas bwysig iawn yn hanes datblygiad Cristionogaeth.

Yn ystod oes aur y ddinas tua diwedd y cyfnod Hellenistaidd a dechrau'r cyfnod Rhufeinig, roedd ei phoblogaeth wedi cyrraedd tua 500,000; y drydedd dinas yn y byd ar ôl Rhufain ac Alexandria]]. Erbyn y 4edd ganrif, yn ôl Chrysostom roedd y boblogaeth wedi lleihau i tua 200,00. Nid yw'r ffiyrau hyn yn cynnwys caethweision.

Yn ddiweddarach bu ymgiprys am y ddinas rhwng yr Arabiaid a'r Ymerodraeth Fysantaidd. Bu gwarchae hir ar y ddinas yn ystod y Groesgad Gyntaf, a daeth Bohemund, tywysog Taranto, yn arglwydd y ddinas. Cipiwyd y ddinas yn ôl yn 1268 gan y Swltan MamlukBaibars wedi gwarchae hir arall. Lladdodd Baibars lawer o'r boblogaeth Gristionogol, a rhwng hyn a'r ffaith fod y porthladd erbyn hyn allan o gyrraedd llongau mawr, dirywiodd y ddinas.