Y Blaid Democrataidd Cenedlaethol a Llafur: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion using AWB
Llinell 2:
 
==Gwreiddiau'r Blaid==
Cododd y blaid allan o rwyg yn y [[Plaid Sosialaidd Brydeinig|Blaid Sosialaidd Brydeinig]], yn bennaf oherwydd agweddau tuag at y [[Rhyfel Byd Cyntaf]]. Ym 1915 ffurfiwyd [[Pwyllgor Amddiffyn Cenedlaethol Sosialaidd]] gan y sosialwyr blaenllaw [[Victor Fisher]], [[Alexander M. Thompson]] a [[Robert Blatchford]]. Bwriad y pwyllgor oedd cefnogi ''y syniad tragwyddol o genedligrwydd'' a hyrwyddo ''mesurau sosialaidd yn ymdrech y rhyfel''. <ref>John Callaghan, ''Socialism in Britain'' (1990), p. 74.</ref>
 
Ym 1916, ffurfiodd y pwyllgor [[Cynghrair Gweithwyr Prydain]] a oedd yn disgrifio ei hun fel grŵp ''llafur gwladgarol'' ac yn canolbwyntio ar enyn cefnogaeth i'r rhyfel a'r Ymerodraeth Brydeinig. Roedd y Gynghrair yn cael ei ariannu gan yr Arglwydd Milner, ac yn cael ei gefnogi gan Aelodau Seneddol Llafur megis [[William Abraham]], [[James O'Grady]] a [[Stephen Walsh]]. Nod y Gynghrair oedd herio heddychwyr a oedd am fod yn ymgeiswyr Seneddol [[Y Blaid Lafur (DU)|Llafur]]. Roedd un ar ddeg o'r 38 [[AS]] Llafur yn rhoi eu cefnogaeth i Gynghrair Gweithwyr Prydain, gan achosi rhwyg yn y Blaid Lafur er bod y mwyafrif wedi aros yn driw i Lafur pan drodd y pwyllgor yn blaid wleidyddol.
Llinell 39:
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
 
[[Categori:Pleidiau gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig|Llafur]]