Wicipedia:Wicibrosiect WiciNatur: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Diweddaru manylion Rhaglen y Cwrs Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol |
|||
Llinell 72:
----
RHAGLEN GWEITHDY WICINATUR
Llinell 79 ⟶ 78:
Plas Tan y Bwlch, Maentwrog
Mai 6ed, 2017
Cynhelir Gweithdy WiciNatur ar gyfer gwirfoddolwyr ac eraill sy’n dymuno cyfrannu (yn ddigidol ond hefyd i gynorthwyo trwy ddulliau traddodiadol) i gronfeydd Llên Natur a WiciMedia. Mi fydd y diwrnod hefyd yn hyfforddiant i ddefnyddio dulliau cyfranogi i Wicipedia yn gyffredinol.
Byddwch yn barod i gael tynnu eich llun wrth gyrraedd
10.00 Gair o groeso, Twm Elias
(Darlithfa'r Stablau)
CYFLWYNIADAU ALLWEDDOL
10.10 Araith gyweirnod.
Gareth Morlais
(Prif Arbenigwr Technegol Llywodraeth Cymru)
10.30 'Y Bywiadur': trindod ddeinamig
Duncan Brown
(Golygydd Llên Natur ar ran Cymdeithas Edward Llwyd)
10.45 Wicimedia a Chronfa 'WiciNatur'.
Robin Owain
(Prif Olygydd Wicipedia Cymraeg)
11.00 Y Porth Termau, Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor (Canolfan Bedwyr),
Dewi Bryn Jones
(Technegydd y Porth Termau)
11.10
'PANAD
(Yng nghyntedd y Stablau)
CYFLWYNIADAU AR BROSIECTAU
11.30 Sut mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi manteisio ar lwyfan WiciMedia.
Jason Evans
(WicimediwrLlyfrgell Genedlaethol Cymru)
11.40 Termau Natur a chywirdeb iaith
Bruce Griffiths
(cyd-awdur Geiriadur yr Academi a chyd-arbenigwr iaith Y Bywiadur)
11.55 Rhywogaethau a llenyddiaeth Gymraeg cyn 1800: enghreifftiau dethol
Dr Cathryn Charnell-White
(Pennaeth Adran Gymraeg Prifysgol Aberystwyth)
12.10 Astudiaeth achos:
Datblygu adnodd gyfansawdd y Capiau Cŵyr
Anita Daimond
(Rheolwr Prosiect Capiau Cŵyr PlantlifeCymru)
12.20 ApRhywogaethau i Ysgolion
Ffion Hughes
(Pwyllgor Rheolaeth Cymdeithas Gwaith Maes)
12.30 - 13.30 CINIO YSGAFN**
(Prif Ystafell Fwyta)
Mi fydd gan Bruce Griffiths ac Ann Corkett stondin llyfrau natur ail-law i'ch difyrru ac i werthu - yn y stabal.
Y GWEITHDAI
13.30 Ail ymgynull yn Narlithfa'r Stablau
Wicipedia: trosolwg o'r gwaith golygu testun, llun a sain.
Robin Owain (tua hanner awr)
Pawb i ddewis rhywogaeth i ymdrin a hi (cewch weithio mewn parau neu grwpiau bychan).
Gwasgaru i grwpiau ymarferol o dan arweiniad technegol Robin (i'r ddarlithfa neu'r Ystafell IT - creu a datblygu erthyglau), neu Jason (i'r llyfrgell - llwytho lluniau i WiciComin i i'w defnyddio mewn erthyglau). Defnyddir MORESG fel esiampl.
Byddwn yn ymgynnull yn ystod y prynhawn (amser i'w drefnu) i gnoi cîl ar y diwrnod ac i gynllunio ymlaen. Cyfnewid cyfeiriadau ebost. Mi fydd y gweithdai yn parhau, yn ôl dymuniad, tan 5 o'r gloch
17.00 Cau Siop!
Dewch â'r canlynol gyda chwi os yn bosibl:
1. Ffonnau clyfar (at ddefnydd personol)
2. Gliniaduron (at ddefnydd personol: bydd digon o gyfrifiaduron ar gael hefyd)
3. Llyfrau adnabod rhywogaethau (i'w rhannu - nodwch eich enw ar eich eiddo)
4. Deunyddiau perthnasol i rywogaethau: ysgrifau / lluniau / delweddau (print a/neu digidol)
I arbed amser ar y diwrnod, gofynnir i chi fewngofnodi ar y Wicipedia Cymraeg ymlaen llaw. Mae'r cyfarwyddid i wneud hyn yn yr Atodiad islaw:
** Diolch i Wicimedia a Chymdeithas Edward Llwyd noddir a darperir (yn ddibynnol ar nifer y rhai sydd yn cofrestru) bwyd a choffi yn y Bwyty mawr neu gallwch ddod a bwyd eich hunain. Cynigir cymorth gyda chostau teithio trwy gais. Gwerthfawrogwn gyfraniad o £5 tuag at y bwyd a chostau eraill. Byddwch cystal a chadarnhau erbyn dydd Mawrth 2 Fai a) eich bwriad i ymuno â'r gweithdy, a b) a ydych chi angen bwyd darparedig. Os na chawn gadarnhad gennych am y bwyd fe gymerwn NA fyddwch ei eisiau.
COFRESTRU Â'R GWIETHDY trwy
llennatur@yahoo.co.uk neu drwy un o'r trefnyddion DB, RO neu TE.
Rhaid cofrestru o flaen llaw.
---------------------------------
Atodiod: MEWNGOFNODI I WICIPEDIA
I ffindio'r Wicipedia Cymraeg, rhowch y gair 'Wicipedia' yn eich porwr (e.e. Google). Os nad ydych wedi creu cyfri, yna mae'r botwm 'Creu cyfri' ar frig dde'r ddalen: os ydych eisioes wedi creu cyfri, yna 'Mewngofnodi' fydd ei angen. Am y ddau neu dri tro cyntaf, cewch CAPTCHA (sy'n hen niwsans!) ond wedi hynny, mae eich cyfrifiadur yn cofio eich cyfrinair, hyd yn oed ar brosiectau eraill wici e.e. Comin, Wicirhywogaeth neu Wicidata. Os nad ydych yn creu cyfri, yna mi fydd y byd a'r betws yn gweld eich cyfeiriad IP!
Llinell 181 ⟶ 184:
Felly, dyna ni wedi gwneud dau beth sy'n hanfodol ar gyfer golygu yn y Gymraeg: mewngofnodi a chadw llygad ar rai erthyglau! Cofiwch wneud hyn cyn y Gweithdy; mi fydd yn amhosib i chi greu cyfri ar y diwrnod gan fod y system yn cloi wedi i bump greu cyfrif! Os cewch drafferth... dyfal donc... a thriwch eto! Os aiff hi'n ben-set yna ebostiwch y Wicipedwyr profiadol ar wicipediacymraeg@gmail.com.
CEWCH GYRCHU POB DIM YNGLYN Â'R GWEITHDY TRWY CHWILIO AR WEFAN WICIPEDIA (efo C) AM WN (WiciNatur) MEWN UNRHYW FLWCH CHWILIO.
==Mynychwyr sydd wedi cofrestru==
|