Paul Peter Piech: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

arlunydd Americanaidd
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici732
Tagiau: Golygiad cod 2017
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 22:48, 25 Chwefror 2020

Arlunydd Americanaidd oedd Paul Peter Piech (11 Chwefror 192031 Mai 1996).[1]

Paul Peter Piech
Ganwyd11 Chwefror 1920 Edit this on Wikidata
Brooklyn Edit this on Wikidata
Bu farw31 Mai 1996 Edit this on Wikidata
Porthcawl Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, arlunydd graffig Edit this on Wikidata

Ganed yn Brooklyn, Dinas Efrog Newydd, i rieni Wcreinaidd. Astudiodd yng ngholeg celf y Cooper Union ym Manhattan, ac yn 1937 aeth i weithio yn arlunydd graffig i Dorlands Advertising Agency. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe wasanaethodd yn Lluoedd Awyr Byddin yr Unol Daleithiau a chafodd ei ddanfon i Gaerdydd. Yno bu'n paentio lluniau o ferched ar awyrennau'r fyddin. Priododd Piech â nyrs a bydwraig Gymreig o'r enw Irene Tomkins yn 1947, a chawsant un ferch. Arhosodd ym Mhrydain am weddill ei oes ac elwodd ar grant i gyn-filwyr i astudio yng Ngholeg Celf Chelsea.[1]

Gweithiodd Piech yn gyfarwyddwr artistig i W.S. Crawfords Advertising o 1951 i 1968. Yn 1959, sefydlodd Taurus Press i gynhyrchu printiau leino a phosteri a oedd yn llawn testun, nifer ohonynt yn protestio yn erbyn anghyfiawnderau cymdeithasol. Wedi iddo adael W.S. Crawfords, gweithiodd Piech yn arlunydd graffig ar ei liwt ei hun, ac addysgodd mewn sawl ysgol gelf gan gynnwys Chelsea, Coleg Printio Llundain, ac Ysgol Gelf Caerlŷr.[1]

Yn ystod degawd olaf ei fywyd, bu'n byw ym Mhorthcawl ac yno fe gynhyrchodd cyfres o brintiau am lenorion Cymreig, gan gynnwys Saunders Lewis, D. J. Williams, Harri Webb, a Waldo Williams.[2] Bu farw ym Mhorthcawl yn 76 oed.[1]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Lottie Hoare, "Obituary: Paul Peter Piech", The Independent (4 Gorffennaf 1996). Adalwyd ar 25 Chwefror 2020.
  2. "Yr artist rhyngwadol ddisgynodd mewn cariad gyda llên Cymru", BBC Cymru Fyw (25 Chwefror 2020). Adalwyd ar 25 Chwefror 2020.