John Ogwen

Actor o Gymro

Un o actorion mwyaf blaenllaw Cymru yw John Ogwen (ganwyd 25 Ebrill 1944).

John Ogwen
Ganwyd25 Ebrill 1944 Edit this on Wikidata
Bethesda Edit this on Wikidata
Man preswylBangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor ffilm, actor teledu Edit this on Wikidata
PriodMaureen Rhys Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganed yn Sling, ger Tregarth yn Nyffryn Ogwen, Gwynedd. Mynychodd Ysgol Dyffryn Ogwen lle bu'n aelod brwd o'r cwmni drama. Astudiodd Saesneg a Chymraeg ym Mhrifysgol Bangor.[1]

Gyrfa golygu

Ar y diwrnod y cafodd ei radd o'r brifysgol, cynigodd Wilbert Lloyd Roberts swydd iddo gyda Cwmni Theatr Cymru, ac aeth yn syth i berfformio yn Eisteddfod y Bala yn 1967.

Aeth i Lundain am gyfnod, a chafodd glod am ei ran mewn cynhyrchiad o'r ddrama The Corn is Green gyda'r enillydd Oscar, Wendy Hiller. Wrth gofio am ei amser yn Llundain dywedodd "Roedd o'n brofiad eitha od, ond mi wnes i ei fwynhau o. Ond, yn y diwedd, mi wnes i a fy asiant gytuno mai adra' roeddwn i eisio bod. Mi wnaeth o ddeud 'You'll have to make up your mind whether you want to be a nationalist or an actor.' 'I'll be a bit of both' meddwn i."[2]

Daeth yn adnabyddus i gynulleidfa tu allan i Gymru drwy serennu fel Twm Siôn Cati yng nghyfres ddrama y BBC Hawkmoor yn 1978, straeon yn seiledig ar hanesion Twm. Ymddangosodd hefyd yn y gyfres The District Nurse a chwaraeodd rhan Bostock yn Revelation of the Daleks, stori Doctor Who o 1985.[3]

Ar deledu Cymraeg, ymddangosodd mewn cyfresi fel Minafon a Deryn.[4] Mae hefyd wedi ysgrifennu dramâu, cyflwyno cyfres o raglenni dogfen a chreu recordiadau llafar o weithiau Cymreig. Ef yw adroddwr stori y fersiwn Gymraeg o'r rhaglen deledu i blant Tomos y Tanc a'i Ffrindiau.

Yn 2004, derbyniodd wobr arbennig BAFTA Cymru am ei gyfraniad.[5]

Ymunodd â chast Pobol y Cwm yn Ebrill 2017 yn chwarae'r cymeriad Josh. Dyma'r tro cynta iddo ymddangos yn y gyfres ond ysgrifennodd nifer o benodau o'r opera sebon yn y blynyddoedd cynnar.[6]

Bywyd personol golygu

Mae'n briod â Maureen Rhys, un arall o actorion mwyaf adnabyddus Cymru,[7] ac mae'r ddau wedi cydweithio'n aml. Mae ganddynt dri o blant ac maent yn byw ym Mangor.

Gwaith golygu

Ffilmiau golygu

Teledu golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Proffil John Ogwen. BBC Cymru.
  2. "John Ogwen: Bywgraffiad a Llyfryddiaeth | Y Lolfa". www.ylolfa.com. Cyrchwyd 2024-04-26.
  3. "BBC Radio Cymru - Aled Hughes, 100 Diwrnod tan yr Eisteddfod, John Ogwen, Bostok yn Doctor Who". BBC. 2023-04-27. Cyrchwyd 2024-04-26.
  4. "BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - John Ogwen". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2024-04-26.
  5.  Gwobrau 2004. BAFTA Cymru.
  6.  John Ogwen yn ymuno efo Pobol y Cwm. Y Cymro (22 Mawrth 2017).
  7.  Maureen O’Cwm?!. Caernarfon Online (19 Rhagfyr 2006). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Gorffennaf 2011.