Minafon (cyfres deledu)

Drama deledu hynod boblogaidd oedd Minafon a ddarlledwyd ar S4C yn yr 1980au. Cynhyrchwyd y gyfres gan Ffilmiau Eryri.

Nofel 'Mis o Fehefin' ( Awst 1980) ISBN 0 85088 513 2 gan Eigra Lewis Roberts
Tai teras ym mhentref Trefor a ddefnyddiwyd fel set ar gyfer cyfres 'Minafon'

Darlledwyd y bennod gyntaf ar 15 Chwefror 1985[1] gyda'r bennod olaf ar 10 Mawrth 1989. Roedd yn seiliedig ar gymeriadau o nofel Eigra Lewis Roberts, 'Mis o Fehefin' (Gwasg Gomer, 1980). Roedd Minafon yn stryd o dai teras mewn pentref bach dychmygol yn y Gogledd ac fe'i ffilmwyd ym mhentref Trefor, Gwynedd, Cymru.

Dilynai hynt a helynt pob dydd cymeriadau'r stryd ac fe'u portreadwyd gan gast o actorion cryf ac adnabyddus. Un o gynhyrchwyr y gyfres oedd Norman Williams ac un o'r cyfarwyddwyr oedd Dennis Pritchard Jones.[2]

Prif gymeriadau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Roberts, Dyfan (Tachwedd 2004). "Beryl - Y Rhyfeddod Prin". Barn 502.
  2. Minafon ar IMDb

Dolenni Allanol golygu