Eldra

ffilm ddrama a gyhoeddwyd yn 2002
(Ailgyfeiriad o Eldra (ffilm))

Ffilm Gymraeg yw Eldra a ryddhawyd yn 2002. Cafodd y ffilm ei chyfarwyddo gan Tim Lyn a'i chynhyrchu gan Bethan Eames.

Eldra
Cyfarwyddwr Tim Lyn
Cynhyrchydd Bethan Eames
Ysgrifennwr Marion Eames
Cerddoriaeth Robin Huw Bowen
Sinematograffeg Rory Taylor
Golygydd Bronwen Jenkins
Sain Tim Walker
Dylunio Bill Bryce
Cwmni cynhyrchu Teliesyn / S4C
Dyddiad rhyddhau 2002
Amser rhedeg 94 munud
Gwlad Cymru
Iaith Cymraeg

Cynhyrchwyd y ffilm Gymraeg Eldra gan Teliesyn i S4C. Ysgrifennwyd y script gan Marion Eames gydag Eldra Jarman y Sipsi yn adrodd ei hatgofion iddi.

Cyfansoddwyd a chanwyd y delyn deires sy'n gefndir cerddorol i'r ffilm gan Robin Huw Bowen. Eldra ddysgodd alwaon y sipsiwn iddo.

Crynodeb golygu

Mae'r ffilm wedi'i lleoli ym Bethesda, Gwynedd yn y 1930au, cartref dros dro i Eldra, sipsi ifanc. Mae bywyd y ferch ifanc yn ynddangos fel un siwrna hir; lle mae hud a lledrith yn chwarae rhan annatod o drefn naturiol bywyd.

Ond nid yn unig mae'n rhaid i Eldra ddysgu am fywyd Romani, mae'n hanfodol iddi hefyd ddeall cyfyngiadau realti bywyd ei chyfeillion newydd a'r gormes sydd yn bodoli o fewn trefn gymdeithasol ardal y chwareli.

Cast a chriw golygu

Prif gast golygu

Cydnabyddiaethau eraill golygu

  • Gwisgoedd – Pam Moore

Manylion technegol golygu

Tystysgrif ffilm: Untitled Certificate
Fformat saethu: 35mm
Math o sain: Dolby Stereo
Lliw: Lliw
Cymhareb agwedd: 1.85:1
Gwobrau:
Gŵyl ffilmiau Blwyddyn Gwobr / enwebiad Derbynnydd
BAFTA Cymru 2001 Y Ddrama Orau Bethan Eames
Y Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth Gorau Rory Taylor
Y Cynllunio Gorau Bill Bryce
Y Gwisgoedd Gorau Pamela Moore
Y Gerddoriaeth Wreiddiol Orau Robin Huw Bowen
Gŵyl Ffilm Moondance, California 2001 Ffilm Orau (Gwobr Ysbryd Moondance)
Yr Ŵyl Ffilm a Theledu Geltaidd 2001 Gwobr y rheithgor ar gyfer perfformiad arbennig Iona Wyn Jones

Llyfryddiaeth golygu

Dolenni allanol golygu

  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Eldra ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.