Rugby Europe

corff rheoli rygbi'r undeb yn Ewrop

Rugby Europe ("Rygbi Ewrop"), a elwid gynt yn Gymdeithas Rygbi Ewrop (FIRA - AER), yw'r corff sy'n cyd-lynnu rygbi'r undeb yn Ewrop, 47 o gymdeithasau cenedlaethol yn aelodau ohoni. Mae "Rugby Europe" (arddelir y term Saesneg yn unig), yn ei dro, yn gysylltiedig â World Rugby, olynydd y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (IRB), corff llywodraethu rygbi ledled y byd fel un o'r 6 chymdeithas ranbarthol, cyfandirol.[1]

Rugby Europe
Enghraifft o'r canlynolcorff llywodraethu chwaraeon rhyngwladol, corff llywodraethol rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2 Ionawr 1934 Edit this on Wikidata
SylfaenyddItalian Rugby Federation, French Rugby Federation, Swedish Rugby Union, German Rugby Federation, Romanian Rugby Federation, Portuguese Rugby Federation, Rugby Nederland, Spanish Rugby Federation, Belgian Rugby Federation, Catalan rugby union federation Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolWorld Rugby Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolassociation déclarée Edit this on Wikidata
PencadlysParis Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.rugbyeurope.eu/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Logo Rugby Europe

Hanes golygu

 
Datganiad swyddogol sefydlu FIRA, 10fed eitem yn y 3ydd golofn, 10 Mehefin 1934

Mae sefydlu Rugby Europe yn adlewyrchu gwleidyddiaeth rygbi fel gêm rynglwadol, ei thŵf a'r dadleuon dros dalu chwaraewyr i chwarae'r gamp.

FIRA (1934-1999) golygu

Ym 1931, gwaharddwyd Ffederasiwn Rygbi Ffrainc (FFR) rhag chwarae'r Pum Gwlad oherwydd bod awdurdodau chwaraeon wedi amau ers amser bod y (FFR) yn caniatáu proffesiynoldeb. O ganlyniad, sefydlodd Ffrainc, ynghyd â'r Eidal, Sbaen, Catalwnia, Gwlad Belg, Portiwgal, Romania, yr Iseldiroedd a'r Almaen, Gymdeithas Rygbi Rhyngwladol Amatur (Fédération internationale de rugby amateur, FIRA) ym 1934,[2] a ddyluniwyd i drefnu'r gystadleuaeth rygbi y tu allan i awdurdod y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (fel y'i gelwid ar y pryd).[3][4][5]

FIRA - A.E.R. (1999-2014) golygu

Yn yr 1990au cydnabuwyd yr IRB fel corff llywodraethu rygbi yn y byd ac ar ôl trafodaethau, cytunodd FIRA i ymuno â'r sefydliad. Yn 1999 newidiwyd yr enw i "FIRA - Cymdeithas Rygbi Ewrop" (FIRA-AER) i hyrwyddo a llywodraethu'r undeb rygbi yn y gofod Ewropeaidd a rhedeg Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd.

Rugby Europe (2014-presennol) golygu

Ym mis Mehefin 2014, yn ystod confensiwn blynyddol FIRA-AER yn Split, Croatia, penderfynwyd newid enw'r sefydliad i Rugby Europe i roi enw byr, mwy adnabyddadwy iddo [6] gan arddel yr enw Seasneg yn unig.

Nid yw pob aelod yn aelod o World Rugby. Diweddarwyd 2019.[7]

Ceir 40 aelod World Rugby

Ceir saith aelod o Rugby Europe nad sy'n aelodau o World Rugby:

Ceir chwe gwlad Ewropeaidd sydd ddim ar hyn o'r bryd yn gysylltiedig ag unau Rugby Europe na World Rugby:

Cystadlaethau golygu

Rygbi'r Undeb 15 pob ochr golygu

Twrnament Tymor ddiwethaf Pencampwyr
Pencampwriaethau Rhyngwladol Rugby Europe 1A Pencampwriaeth (Championship) RE Championship 2019   Georgia
Rugby Europe 1B Tlws (Trophy) RE Trophy 2018-19   Portiwgal
Rugby Europe International Championships 2A Cynhadledd (Conference) RE Conference 2017-18   Lithwania
RE International Championships Datblygu (Development) RE Development 2017-18   Bwlgaria
RE dan-20 Championship RE dan-20 Championship 2019   Portiwgal (M20)
Rugby Europe dan-18 Championship Rugby Europe dan-18 Championship 2018   Georgia (M18)
Twrnament Tymor ddiwethaf Pencampwyr
European Championship Menywod European Championship Menywod 2019   Sbaen

Rugby 7 golygu

Cynheir hefyd cystadlaethau rygbi saith bob ochr.

Twrnament Tymor ddiwethaf Pencampwyr
"Sevens Grand Prix Series" 2018"   Iwerddon Nodyn:Country data Irlanda
Twrnament Tymor ddiwethaf Pencampwyr
Sevens Grand Prix Series Menywod 2018   Rwsia

Cyfeiriadau golygu

  1. [1] Archifwyd 2015-08-17 yn y Peiriant Wayback. WR - Regional Associations (en inglés)
  2. https://rugbipensador.files.wordpress.com/2008/04/acta_constitucio_fira.pdf
  3. [2] WR - FIRA Formed
  4. "About us" (yn Saesneg). 3 de octubre de 2016. Cyrchwyd 16 de mayo de 2018. Unknown parameter |periódico= ignored (help); Check date values in: |access-date=, |date= (help)
  5. "About us" (yn Saesneg). Unknown parameter |obra= ignored (|work= suggested) (help)
  6. FIRA-AER Becomes RUGBY EUROPE Archifwyd 2014-07-14 yn y Peiriant Wayback. Nodyn:Wayback FIRA-AER website, published: 20 June 2014, accessed: 25 June 2014
  7. "Unions Members". Rugby Europe. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-28. Cyrchwyd 24 January 2019.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am rygbi'r undeb. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.