Tîm hoci cenedlaethol menywod Cymru

Mae tîm hoci cenedlaethol menywod Cymru (weithiau hefyd, Tîm hoci cenedlaethol merched Cymru) yn cynrychioli Cymru mewn hoci menywod rhyngwladol, ac eithrio'r Gemau Olympaidd yr Haf pan fydd chwaraewyr o Gymru yn gymwys i chwarae i dîm hoci menywod Prydain Fawr fel y'u dewiswyd. Prif dargedau'r wlad fel y'u nodwyd gan Hoci Cymru, corff llywodraethu cenedlaethol Cymru ar gyfer hoci, yw Pencampwriaethau EuroHockey, Cynghrair y Byd FIH a Gemau'r Gymanwlad.[1] Ym mis Mawrth 2020 roedd tîm menywod Cymru yn sefyll ar rif 25 yn ranc byd-eang yr FIH.[2]

Gêm hoci Iseldireodd v Cymru, 1966
Gêm hoci Iseldireodd v Cymru, 1976

Sefydlwyd y Cymdeithas Hoci Menywod Cymru ("Welsh Women's Hockey Association") tîm flwyddyn ar ôl sefydlu, sef 1897. Chwaraewyd y gêm gystadleuol ryngwladol gyntaf yn 1899. Ymddengys i Gymru golli pobl un gêm rhwng 1899 ac 1909 gan gynnwys 15-0 i Loegr yn Y Fenni yn 1902. Yn anffodus, does neb yn gwybod i sicrwydd faint o gemau chwaraewyd gan dîm merched Cymru. Ymddengys hefyd roedd yn orfodol i fenywod Cymru wisgo rhwydi gwallt wrth chwarae i'w gwlad ond nid i'w clwb lleol.[3]

Cyn-chwaraewyr Nodedig golygu

Ymysg cyn-chwaraewyr tîm cenedlaethol Cymru mae sawl enw nodedig:

  • Ann Lorraine Davies - actores a chyfieithydd a gweithredwraig asgell chwith nodedig. Yn enedigol o Gaerdydd. Teithiodd gyda'r tîm cenedlaethol yn 1936.
  • Anne Ellis - yn enedigol o Abertawe, chwaraeodd Ellis 138 o weithiau’n olynol i Gymru a 14 o weithiau i Brydain rhwng 1963 ac 1980, a tan 2017 hi oedd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau’n chwarae hoci i Gymru. Bu’n hyfforddi timau Prydain Fawr a Chymru ar ôl ymddeol o’r gamp, ac am 20 mlynedd hi oedd Llywydd Hoci Cymru. Mae’n ymroddedig i’r gamp ar bob lefel hyd heddiw, bu hi'n Llywydd Gemau'r Gymanwlad Cymru, ac mae hyd yn oed yn rhoi help llaw yng nghaffi Clwb Hoci Dinas Abertawe ar benwythnosau.[4]
  • Sheila Morrow - Bu'n athrawes ymarfer corff yng Nghaerdydd, ac enillodd 136 o gapiau’n chwarae hoci i Gymru ac i Brydain Fawr. Rhwng 1967 a 1984, bu’n gapten ar y ddau dîm a chwaraeodd mewn pump o Bencampwriaethau Byd. Bu’n gweithio i Chwaraeon Cymru o 2003, ac roedd yn feirniad yng Ngemau Olympaidd 2004 a 2008.[5]

Record y twrnamaint golygu

Cwpan y Byd golygu

1983 - 12fed safle

Pencampwriaeth EuroHockey golygu

1987 - 8fed safle
1991 - 9fed safle
2003 - 12fed safle

Pencampwriaeth EuroHockey II golygu

2005 - 7fed safle
2009 - 3ydd safle, enillydd (au) medal efydd
2011 - 8fed safle
2015 - 5ed safle
2017 - 4ydd safle
2019 - 5ed safle
2021 - Cymwys

Pencampwriaeth EuroHockey III golygu

2007 - lle 1af, enillydd (au) medal aur
2013 - lle 1af, enillydd (au) medal aur

Gemau'r Gymanwlad golygu

1998 - 11eg safle
2010 - 8fed safle
2014 - 9fed safle
2018 - 9fed safle

Cynghrair y Byd Hoci golygu

2012–13 - Rownd 1
2016–17 - 22ain lle

Cyfres Hoci FIH golygu

2018–19 - Ail rownd

Cyfeiriadau golygu

  1. "Wales Senior Women Performance Training Squad". hockeywales.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-19. Cyrchwyd 12 July 2014.
  2. http://www.fih.ch/rankings/outdoor/
  3. https://www.thehockeypaper.co.uk/articles/2020/03/27/welsh-hockey-fans-launch-history-research-in-landmark-month
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-04. Cyrchwyd 2020-06-04.
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-04. Cyrchwyd 2020-06-04.

Dolenni allanol golygu