Argyfwng tai Cymru
Diffyg cartrefi i ddinasyddion Cymru ydy'r argyfwng tai yn y bôn. Achosir yr argyfwng presennol (2020au) gan gyfuniad o ffactorau, megis, lefelau uchel o fewnfudo,[1] cynnydd mewn niferoedd ail gartrefi a thai haf,[2] cyflogau isel, a chynnydd mewn prisiau tai.[3][4] Gwaethygir y sefyllfa gan effeithiau pandemig COVID-19.[2][4] Cyfranna’r argyfwng at ddirywiad yr iaith Gymraeg yn y Fro Gymraeg, yn ogystal â chymunedau tu allan i’r Fro.[1]
Hanes
golyguNid ffenomenon newydd ydy'r argyfwng tai: mae gan y Cymry hanes hir o orfod brwydro am yr hawl i fyw yn eu milltiroedd sgwâr a'u cymunedau eu hunain. Profwyd problemau sylweddol gyda chrynodiadau uchel o ail gartrefi a thai haf yng Nghymru mor bell yn ôl a'r 1970au – rhoddwyd rhan helaeth o bentref Derwen-gam ar werth ar ddechrau’r degawd hwnnw, ac fe gafodd nifer fawr o’r tai eu gwerthu fel tai haf.[5] Gwaethygu wnaeth y sefyllfa ar ôl hynny: er enghraifft, erbyn 1980 roedd tua 66% o dai pentref Llangrannog yn dai haf;[6] erbyn 1991 roedd tua 6% o dai Sir Benfro yn ail gartrefi neu’n gartrefi gwyliau;[7] ac erbyn 2004 roedd tua 33% o dai pentref Abersoch yn ail gartrefi.[8]
Gwelwyd gweithredu di-drais gan nifer o fudiadau cenedlaetholgar Cymreig (megis Adfer, Cymuned a Chymdeithas yr Iaith) mewn ymateb i'r argyfwng tai dros y blynyddoedd. Gwelwyd hefyd weithredu treisgar gan fudiad Meibion Glyndŵr gyda’u hymgyrch llosgi tai haf. Er gwaethaf eu holl ymdrechion i geisio atal erydiad cymunedau Cymreig, mae'r Gymru gyfoes mewn sefyllfa waeth nag erioed, gyda nifer o gymunedau bron a bod wedi eu colli'n llwyr i ail gartrefi a thai haf.[9]
Enghreifftiau
golyguGwynedd
golyguYn 2020, roedd tua 11% o stoc dai Gwynedd naill ai’n ail gartrefi neu’n llety gwyliau.[2] Roedd tua 60% o drigolion y sir yn methu â fforddio prynu tŷ yno yn 2019.[10] Mae nifer o’r trigolion yn feirniadol o Lywodraeth Cymru am beidio â gwneud digon i gyfyngu ar niferoedd tai haf, adeiladau tai i bobl leol, a chreu swyddi o safon yn y sir.[11]
Abersoch
golyguYn 2020, roedd 46% o’r stoc dai yn Abersoch yn ail gartrefi yn ôl y diffiniad ehangach sy’n cynnwys llety gwyliau masnachol.[2] Mae 95% o bobl leol yn methu â fforddio prynu tŷ yn Abersoch yn ôl ffigyrau Hwyluswyr Tai Gwledig Grŵp Cynefin.[12]
Aberdyfi
golyguYm mis Hydref 2021 datgelwyd bod 54% o’r holl eiddo ym mhentref Aberdyfi naill ai'n ail gartrefi, tai gwyliau ar osod, neu’n wag. Datgelwyd hefyd fod 62.3% o aelwydydd lleol yn cael eu prisio allan o’r farchnad leol.[13]
Sir Benfro
golyguYn 2020, roedd dros 9% o stoc dai Sir Benfro naill ai’n ail gartrefi neu’n llety gwyliau.[2]
Cwmyreglwys
golyguDim ond un siaradwr Cymraeg, gŵr 88 oed o'r enw Norman Thomas, oedd yn byw yng Nghwmyreglwys yn 2021, gyda chanran uchel iawn o dai'r pentref glan môr yn dai gwyliau.[9][14] Mewn cyfweliad â BBC Cymru Fyw, dywedodd Norman taw ar Lywodraeth Cymru y mae'r bai am sefyllfa ei bentref; soniodd am ddiffyg swyddi yn Sir Benfro, anallu pobl leol i fforddio tai lleol, a diffyg ymateb y llywodraeth i'r cynnydd yn niferoedd ail gartrefi. Mynegodd hefyd ei dristwch o fod y siaradwr Cymraeg olaf yn y pentref.[15]
Ymgyrchoedd
golyguMae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn galw am Ddeddf Eiddo, i sicrhau bod pobl yn gallu byw yn eu cymunedau eu hunain, ers diwedd y '70au.[16] Daeth dros fil o bobl i brotestiadau Nid yw Cymru ar Werth yn 2022 a 2023, i geisio dwyn sylw i'r argyfwng.[17][18]
Sefydlwyd grŵp ymgyrchu Hawl i Fyw Adra gan aelodau Cyngor Tref Nefyn i bwyso ar y llywodraeth i ymateb i'r argyfwng.[19] Crëwyd Siarter Cyfiawnder Cartrefi gan ymgyrchwyr eraill yn 2020.[20] Denodd deiseb yn galw ar y llywodraeth i gymryd camau brys i ddatrys yr argyfwng tai dros 6,400 o lofnodion yn 2022.[21]
Mae nifer o gerddorion Cymreig, gan gynnwys Al Lewis, Bwca, Elis Derby, a Catrin O’Neill, wedi parhau â’r traddodiad hir o recordio caneuon protest am y sefyllfa.
Ymateb Llywodraeth Cymru
golyguComisiynodd Llywodraeth Cymru adroddiad ar ail gartrefi gan yr academydd Simon Brooks; cyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Mawrth 2021.[22]
Cyhoeddodd y llywodraeth rhestr o gamau gweithredu fel rhan o’u Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru ym mis Tachwedd 2021 – mae’r camau yn cynnwys, cap posibl ar nifer yr ail gartrefi a chartrefi gwyliau mewn unrhyw gymuned, a rhoi rhagor o bwerau i’r awdurdodau lleol godi premiymau treth gyngor ar ail gartrefi.[23] Lluniwyd hefyd Gynllun Tai Cymunedau Cymraeg er mwyn ceisio cynnig cefnogaeth i gymunedau Cymraeg sydd â dwysedd uchel o ail gartrefi.[24]
Croesawyd y camau gweithredu gan fwyafrif o ymgyrchwyr yr argyfwng tai,[25] er roedd nifer yn pryderu nad oedd yr ymateb yn mynd yn ddigon pell.[26] Gwelwyd cryn wrthwynebiad i gynlluniau’r llywodraeth gan berchnogion tai haf.[27]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Phillips, Dylan. "Croeso i Gymru?". Prifysgol Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Hydref 2022.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Brooks, Simon (2021). "Ail gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru" (PDF). Llywodraeth Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 17 Hydref 2022.
- ↑ "Trafferthion prynu wrth i brisiau tai gyrraedd yr uchaf erioed". BBC Cymru Fyw. 17 Hydref 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Hydref 2022.
- ↑ 4.0 4.1 "Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Gorffennaf 2022". Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Hydref 2022.
- ↑ "Hanes Derwen Gam ac O Gam I Gam". Mixcloud. Radio Beca. 2015.
- ↑ "O'r Archif: Tai Haf Llangrannog". Facebook. BBC Cymru Fyw. 1980.
- ↑ "Adroddiad Ymchwil ar Ail Gartrefi a Chartrefi Gwyliau a'r System Gynllunio Defnydd Tir" (PDF). Llywodraeth Cymru. 2002. t. 88. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 17 Hydref 2022.
- ↑ "Holiday home ban rejected". North Wales Live. 20 Mai 2004. Cyrchwyd 17 Hydref 2022.
- ↑ 9.0 9.1 "Pentref lle mae bron pob tŷ yn dŷ gwyliau". BBC Cymru Fyw. 2 Mehefin 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Hydref 2022.
- ↑ "Rheoli'r defnydd o dai fel cartrefi gwyliau" (PDF). Cyngor Gwynedd. Rhagfyr 2020. t. 40. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 17 Hydref 2022.
- ↑ "'Gwarth bo' ni methu fforddio tŷ yn ein pentrefi'". BBC Cymru Fyw. 6 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 17 Hydref 2022.
- ↑ "Cymdeithas dai yn cynnal cynllun peilot tai fforddiadwy yn Nwyfor". Golwg360. 24 Chwefror 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Hydref 2022.
- ↑ "Canlyniadau a Chanfyddiadau Arolwg Cymuned Aberdyfi 2021" (PDF). Cyngor Cymuned Aberdyfi. Hydref 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 17 Hydref 2022.
- ↑ Clements, Laura (19 Mehefin 2021). "The beautiful village which became the centre of Wales' second home debate". WalesOnline.
- ↑ "Siaradwr Cymraeg ola' Cwm-yr-Eglwys". Facebook. BBC Cymru Fyw. 2 Mehefin 2021.
- ↑ "1500 yn ymrwymo i ddyfodol ein cymunedau". Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. 7 Mai 2023.
- ↑ "Rali yn Aberystwyth i dynnu sylw at yr argyfwng tai". BBC Cymru Fyw. 19 Chwefror 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Hydref 2022.
- ↑ "1,500 o bobol yn rali Nid yw Cymru ar Werth". Golwg360. 8 Mai 2023.
- ↑ "Hawl i Fyw Adra: yr argyfwng tai "yn teimlo fel brwydr barhaus"". Golwg360. 26 Medi 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Hydref 2022.
- ↑ "Y Siarter Cyfiawnder Cartrefi". Y Siarter Cyfiawnder Cartrefi.
- ↑ "Amddiffynnwch bobl Cymru - cymerwch gamau brys ar yr argyfwng tai nawr". Senedd Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Hydref 2022.
- ↑ "Datganiad Ysgrifenedig: Cyhoeddi adroddiad 'Ail gartrefi – Datblygu polisïau newydd yng Nghymru'". Llywodraeth Cymru. 2 Mawrth 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Hydref 2022.
- ↑ "Y Cytundeb Cydweithio: rhaglen bolisi lawn". Llywodraeth Cymru. 1 Rhagfyr 2021.
- ↑ "Y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg". Llywodraeth Cymru. 11 Hydref 2022.
- ↑ Dafydd, Cadi (7 Gorffennaf 2022). "Mesurau taclo Tai Haf – "arloesol tu hwnt"". Golwg.
- ↑ Dafydd, Cadi (2 Mawrth 2022). "Yr ymateb i'r argyfwng tai "ddim yn mynd ddigon pell"". Golwg360.
- ↑ "Second home owner says 300% council tax hike in Wales is 'morally indefensible'". North Wales Live. 2 Mawrth 2022.