Arianllys byrgoes
Arianllys byrgoes Anthelia juratzkana | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Jungermanniales |
Teulu: | Antheliaceae |
Genws: | Anthelia |
Rhywogaeth: | A. juratzkana |
Enw deuenwol | |
Anthelia juratzkana |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Arianllys byrgoes (enw gwyddonol: Anthelia juratzkana; enw Saesneg: scarce silverwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru.
Disgrifiad
golyguMae'r lliw llwyd glas golau yn nodweddiadol o'r Arianllys hirgoes a'r byrgoes, ac yn ei gwneud yn hawdd i'w hadnabod. Mae'r egin yn 0.5 mm o led, a gyda chwyddwydr, gellir gweld 3 rhes o ddail deulabed, gyda'u pwyntiau miniog wedi'u cywasgu i'r coesyn. Nid oes unrhyw lysieuyn afu Prydeinig arall yn llwydlas a chanddo 3 rhes o ddail sy'n deulabed.[1]
Cynefin
golyguMae'r Arianllys byrgoes (A. juratzkana) yn aml yn tyfu ar derasau ger mannau lle mae eira'n hwyr yn dadmer ar gopa'r mynyddoedd. fel arall, mae i'w chanfod lethrau tamp.
Llysiau'r afu
golygu- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gerddi Botaneg Caeredin; adalwyd 3 mai 2019.
- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.