Arianllys hirgoes

rhywogaeth o fyd planhigion: un o lysiau’r afu
Arianllys hirgoes
Anthelia julacea
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Antheliaceae
Genws: Anthelia
Rhywogaeth: A. julacea
Enw deuenwol
Anthelia julacea

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Arianllys hirgoes (enw gwyddonol: Anthelia julacea; enw Saesneg: Alpine silverwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru.

Disgrifiad golygu

Mae'r lliw llwyd glas golau yn nodweddiadol o'r Arianllys hirgoes (a'r Arianllys byrgoes), ac yn ei gwneud yn hawdd i'w hadnabod. Mae'r egin yn 0.5 mm o led, a gyda chwyddwydr, gellir gweld 3 rhes o ddail deulabed, gyda'u pwyntiau miniog wedi'u cywasgu i'r coesyn. Nid oes unrhyw lysieuyn afu Prydeinig arall yn llwydlas a chanddo 3 rhes o ddail sy'n deulabed.[1]

Mae'r rhannau ffrwythlon tua dwywaith lled y coesynnau nad ydynt yn ffrwythlon.

Cynefin golygu

Fel yr awgryma'r enw, mae swp o Arianllys hirgoes i'w gweld fel carped arian, yn aml ar cerrig asidig neu ar fawnog. Mae hefyd tyfu ar greigiau gwlyb, glannau nentydd a mannau cysgodol, cymharol gynnes.

Llysiau'r afu golygu

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

  Safonwyd yr enw Arianllys hirgoes gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau golygu

  1. Gerddi Botaneg Caeredin; adalwyd 3 mai 2019.
  2. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.