Tîm pêl-droed cenedlaethol Armenia
Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Armenia (Armeneg: Հայաստանի ֆուտբոլի ազգային հավաքական Hayastani futboli azgayin havakakan) yn cynrychioli Armenia yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Armenia (FFA), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r FFA yn aelod o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).
Llysenw(au) |
Հավաքական Havakakan (Y Tîm Cyfan) | ||
---|---|---|---|
Conffederasiwn | UEFA (Ewrop) | ||
Hyfforddwr | Bernard Challandes | ||
Capten | Roman Berezovsky | ||
Mwyaf o Gapiau | Sargis Hovsepyan (131) | ||
Prif sgoriwr | Henrikh Mkhitaryan (16) | ||
Cod FIFA | ARM | ||
Safle FIFA | 79 2 (18 Rhagfyr 2014) | ||
Safle FIFA uchaf | 30 (Chwefror 2014) | ||
Safle FIFA isaf | 159 (Gorffennaf 1994) | ||
Safle Elo | 70 | ||
Safle Elo uchaf | 65 (27 Mai 2014) | ||
Safle Elo isaf | 126 (Mai 1995) | ||
| |||
Gêm ryngwladol gynaf | |||
Armenia 0–0 Moldofa (Yerevan, Armenia; Hydref 14, 1992) | |||
Y fuddugoliaeth fwyaf | |||
Armenia 4–0 Andorra (Yerevan, Armenia; Hydref 12, 2010) Slofacia 0–4 Armenia (Žilina, Slovakia; Medi 6, 2011) Denmarc 0–4 Armenia (Copenhagen, Denmarc; Mehefin 11, 2013) | |||
Colled fwyaf | |||
Tsile 7–0 Armenia (Viña del Mar, Tsile;Ionawr 4, 1997) Georgia 7–0 Armenia (Tbilisi, Georgia; Mawrth 30, 1997) |
Hyd at 1992 roedd chwaraewr o Armenia yn cynrychioli'r Undeb Sofietaidd ond wedi i'r wlad sicrhau annibyniaeth, daeth Armenia'n aelod o FIFA ac UEFA, ym 1992[1].
Cymru ac Armenia
golyguHyd at 2024 dydy Cymru erioed wedi curo Armenia. Mae'r ddwy wlad wedi wynebu ei gilydd dair gwaith; dwy gêm gyfartal, ac un buddugoliaeth i Armenia.
Cafwyd dwy gêm gyfartal yn 2001; 2-2 yn Yerevan, a 0-0 yn Stadiwm y Mileniwm.
Ym mis Mehefin 2023 fe gollodd Cymru 4-2 yn erbyn Armenia, gyda'r chwaraewr ganol-cae Lucas Zelarayán yn serennu i'r ymwelwyr.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Armenian Football Association". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Ar daith i Armenia". BBC Cymru Fyw. 16 Medi 2023.