Cymdeithas Bêl-droed Armenia

Cymdeithas bêl-droed Gweriniaeth Armenia a sefydlwyd yn 1992 wedi annibyniaeth y wlad.

Cymdeithas Bêl-droed Armenia, neu, ei gyfieithiad cywir, Ffederasiwn Pêl-droed Armenia (FFA) (Armeneg: Հայաստանի Ֆուտբոլի Ֆեդերացիա, Hayastani Futboli Federats'ia) yw corff llywodraethu pêl-droed yn Armenia. Mae ei bencadlys wedi'i leoli yn y brifddinas, Yerevan.

Cymdeithas Bêl-droed Armenia
UEFA
[[File:|150px|Association crest]]
Sefydlwyd18 Ionawr 1992; 32 o flynyddoedd yn ôl (1992-01-18)
Aelod cywllt o FIFA1992
Aelod cywllt o UEFA1992
LlywyddArmen Melikbekyan
Gwefanffa.am

Mae'r Ffederasiwn yn trefnu Uwch Gynghrair Armenia, Cynghrair Gyntaf Armenia, Super Cup Armenia, Cwpan Annibyniaeth Armenia, ac Uwch Gynghrair Ffwtsal Armenia. Mae'n gyfrifol am benodi rheolwyr tîm pêl-droed cenedlaethol Armenia, a thîm pêl-droed cenedlaethol merched Armenia. Mae tîm futsal cenedlaethol Armenia hefyd yn cael ei reoli gan y Ffederasiwn.

Dyfarnwyd cae pêl-droed synthetig i'r FFA gan FIFA trwy ei raglen GOAL.[1]

 
Cyn-logo FFPA a ddefnyddiwyd hyd 2023

Dechreuodd hanes pêl-droed Armenia fel gwlad bêl-droed annibynnol yn y 1990au cynnar, ond mae ei thraddodiadau gyda'r gamp yn dyddio'n ôl ymhellach. Roedd cwymp yr Undeb Sofietaidd a datganiad annibyniaeth Armenia ym 1991 yn eiliadau arwyddocaol yn natblygiad chwaraeon y wlad, yn ogystal ag yn ei hanes gwleidyddol. O safbwynt pêl-droed, y digwyddiadau hynny a ysgogodd sefydlu Ffederasiwn Pêl-droed Armenia ar 18 Ionawr 1992.

Daeth yr FFA yn aelod o fyd y gêm a chyrff llywodraethu Ewropeaidd, FIFA ac UEFA, ym 1992.[2][3] Gwnaeth y tîm cenedlaethol eu gêm gystadleuol gyntaf wrth gymhwyso ar gyfer Pencampwriaeth Ewropeaidd UEFA 1996. Dechreuodd Armenia gyda cholled o 2-0 yn erbyn Gwlad Belg ar 7 Medi 1994 ond eto gwnaeth hanes yn yr ymgyrch EURO '96 honno hefyd. Cofnododd y tîm eu buddugoliaeth gystadleuol gyntaf pan enillon nhw 2–1 yn erbyn FYR Gogledd Macedonia (a elwid ar y pryd yn Gyn-Weriniaeth Iwgoslaf Macedonia) ar 6 Medi 1995. Ers hynny, mae Armenia wedi bod yn gêm barhaol yn nhwrnameintiau rhagbrofol Ewro a Chwpan y Byd.

Ar lefel seilwaith, dechreuodd gwaith yn 2007 ar greu ganolfan hyfforddi tîm cenedlaethol ac academi gyda chyfleusterau preswyl. Agorodd y ganolfan ym mis Medi 2010. Mae Stadiwm Gweriniaethol Yerevan hefyd wedi'i ailddatblygu'n rhannol, ac un fantais arbennig i'r fenter hon yw ei harwyneb chwarae newydd trawiadol.[4] Yn y blynyddoedd diwethaf, mae tua 90 stadiwm bach wedi'u hadeiladu ledled Armenia gyda chefnogaeth FIFA a Llywodraeth Armenia.

Ar 15 Mehefin 2022, talodd Llywydd FIFA Gianni Infantino ymweliad swyddogol ag Armenia i gymryd rhan mewn digwyddiadau sy'n ymroddedig i ben-blwydd Ffederasiwn Pêl-droed Armenia yn 30 oed. Addawodd Infantino ei gefnogaeth i ddatblygu pêl-droed yn Armenia. Cyfarfu Infantino â'r Prif Weinidog Nikol Pashinyan a dywedodd y bydd FIFA yn parhau i gefnogi Armenia i ddatblygu seilwaith pêl-droed, gan gynnwys adeiladu stadiwm cenedlaethol newydd.[5]

Arwyddlun

golygu
 
Mynydd Ararat o'r brifddinas, Yerevan sy'n llunio rhan o logo y Ffederasiwn

Newidiodd y Ffederasiwn ei harwylddlun yn 2024. Ond, fel yr hen logo, mae'n cynnwys amlinelliad o Mynydd Ararat. Mae Aratat, er nawr yn rhan o wladwriaeth Twrci ers Hil-laddiad 1915, yn fynydd ysbrydol yr Armeniaid. Crybwyllir y mynydd yn y Beibl fel y man y glaniodd Arch Noa.

Cymru ac Armenia

golygu

Hyd at 2024 dydy Cymru erioed wedi curo Armenia. Mae'r ddwy wlad wedi wynebu ei gilydd dair gwaith; dwy gêm gyfartal, ac un buddugoliaeth i Armenia.

Cafwyd dwy gêm gyfartal yn 2001; 2-2 yn Yerevan, a 0-0 yn Stadiwm y Mileniwm.

Ym mis Mehefin 2023 fe gollodd Cymru 4-2 yn erbyn Armenia, gyda'r chwaraewr ganol-cae Lucas Zelarayán yn serennu i'r ymwelwyr.[6]

Llywyddion

golygu
 
Ruben Hayrapetyan, gŵr busnes a chyn Lywydd y Ffederasiwn

Bu cyfres o Lywyddion ar y Ffederasiwn ers ei sefydlu yn 1992, i gyd yn sefyll.

Pedair mlynedd yw hyd arferol y swyddogaeth.

  • Nikolay Ghazaryan (1992–1994)
  • Armen Sargsyan (1994–1998)
  • Suren Abrahamyan (1998–2002)
  • Ruben Hayrapetyan (2002–2018)
  • Artur Vanetsyan (2018–2019)
  • Armen Melikbekyan (2019–presennol)

Dolenni allannol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Goal supporting Armenia". FIFA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 March 2014. Cyrchwyd 3 March 2014.
  2. "About FFA". Football Federation of Armenia. Cyrchwyd 3 March 2014.
  3. "Armenia always a football hotbed" (yn Saesneg). UEFA. Cyrchwyd 8 November 2015.
  4. "Soccer: Armenia fans gear for home match after Havakakan's two away wins". ArmeniaNow. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 September 2013. Cyrchwyd 3 March 2014.
  5. "FIFA's Infantino pledges support to the construction of new national stadium in Armenia". armradio.am. Cyrchwyd 16 June 2022.
  6. "Ar daith i Armenia". BBC Cymru Fyw. 16 Medi 2023.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Armenia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:UEFA associations

  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Cyfesurynnau: 40°10′34.75″N 44°31′16″E / 40.1763194°N 44.52111°E / 40.1763194; 44.52111