Arnold le Boteler

sgweiar Normanaidd

Arnold le Boteler oedd arglwydd (Normanaidd) cyntaf pentref bychan Pen-bre, ger Llanelli, de Cymru. Yn y cyfnod hwnnw gorweddai Pen-bre yng nghantref Eginog, un o dri chantref Ystrad Tywi ac roedd yn rhan o deyrnas Deheubarth cyn iddo gael ei gipio gan y Normaniaid. Trigai Arnold yn niwedd yr 11g a chychwyn y 12ed ganrif ac roedd yn berchen ar lawer o dai a thir gan gynnwys Court Farm ym Mhen-bre yn ystod brenhiniaeth Gwilym y Gorchfygwr. Gellir olrhain achau Arnold le Boteler i lawr i rai o arlywyddion yr Unol Daleithiau megis George Bush.

Arnold le Boteler
Ganwyd11 g Edit this on Wikidata
Bu farw12 g Edit this on Wikidata
Man preswylPen-bre Edit this on Wikidata
Galwedigaethtirfeddiannwr Edit this on Wikidata

Derbyniodd eiddo gan Maurice de Londres am ei wasanaeth milwrol yn erbyn y Cymru lleol, y cyntaf oedd Dundryfan (Saesneg: Dunraven). Tra fod ei arglwydd de Londres yn ymladd yn erbyn byddin Gwenllian, gwarchododd le Boteler Gastell Ogwr.

Gyda threigl y blynyddoedd, newidir enwau pobl yn aml, a dyna a ddigwyddodd yn y cyswllt yma, gyda le Boteler yn troi'n "Butler". Priododd aelod o deulu yr Arlywydd James Abram Garfield, 19 cenhedlaeth o'i flaen, sef yr Arglwydd Butler ferch o'r enw Anne le Boteler, merch William le Boteler II, Arglwydd Boteler o Wemme - sef pentref bychan yn Swydd Amwythig; Wem, heddiw.

Roedd perthnasau hefyd yn nheulu George W. Bush - 26ed cenhedlaeth, sef James Butler a anwyd 1305.

Gellir gweld arfbais y teulu mewn plastr ar fur Eglwys Sant Illtyd, Pen-bre.

Iarll Ashburnham a etifeddodd yr ystâd.

Dolennau allanol

golygu