Y feidiog lwyd
(Ailgyfeiriad o Artemisia vulgaris)
Artemisia vulgaris | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Asterales |
Teulu: | Asteraceae |
Genws: | Artemisia |
Enw deuenwol | |
Artemisia vulgaris Carl Linnaeus |
Planhigyn blodeuol o deulu llygad y dydd a blodyn haul ydy'r Feidiog Lwyd (Lladin: Artemisia vulgaris, Saesneg: Mugwort). Mae'n perthyn i'r teulu Asteraceae. Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, ceir nifer o enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn, gan gynnwys y Fydiog Lwyd, Canwraidd Lwyd, yr Wrysgen Lwyd, Llwydlys, Llys leuan, Llys Ifan, Llysiau leuan, Llysiau Ifan, Llysiau Llwyd, a Llysiau Llwydion.
Gall dyfu hyd at 2.5m o daldra neu'n fwy a gall ei dail dyfu rhwng 5–20cm o hyd ac yn wyrdd tywyll.
Daw'r gair Asteraceae, sef yr enw ar y teulu hwn, o'r gair Aster, y genws mwyaf lluosog o'r teulu, ac mae'n tarddu o'r gair Groeg ἀστήρ, sef 'seren.'
Rhinweddau
golyguDarganfuwyd bod trwyth o'r Feidiog Lwyd yn gallu amddiffyn cnwd o datws rhag y malltod hwyr.[1]
Gweler hefyd
golygu- Y Bywiadur Gwefan Llên Natur
Cyfeiriadau
golygu- ↑ The Times 31 Hydref 2020