Asyriaid
Grŵp ethnig Semitaidd yw'r Asyriaid sydd yn frodorol i'r Dwyrain Canol. Trigasant hyd at 1 miliwn ohonynt yn eu mamwlad, yn ucheldiroedd gogledd Irac, gogledd Iran, de-ddwyrain Twrci, a gogledd-ddwyrain Syria. Mae rhyw 1–3 miliwn o Asyriaid, neu bobl o dras Asyriaidd, ar wasgar ar draws y byd. Maent yn Gristnogion sydd yn dilyn y ddefod Syrieg, ac yn siarad tafodieithoedd Aramaeg.
Plentyn ifanc Syrieg / Asyriaidd wedi'i wisgo mewn dillad traddodiadol | |
Enghraifft o'r canlynol | Grŵp ethnogrefyddol |
---|---|
Math | Semitiaid |
Mamiaith | Assyrian neo-aramaic, northeastern neo-aramaic, acadeg |
Poblogaeth | 1,230,000 |
Crefydd | Cristnogaeth, eglwys asyriaidd y dwyrain, yr eglwys gatholig galdeaidd, yr eglwys uniongred syrieg, eglwys uniongred rwsia |
Rhan o | Semitiaid |
Gwladwriaeth | Irac, Unol Daleithiau America, Syria, Sweden, Iran, Twrci, Awstralia, Rwsia, Armenia, Canada, Georgia, Wcráin, Gwlad Groeg, Aserbaijan |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Maent yn disgyn o'r hen Asyriaid a fu'n boblogaeth Mesopotamia, Babilonia, ac Ymerodraeth Asyria. Cawsant eu troi'n Gristnogion yn y 4g, a throdd rhai ohonynt yn Nestoriaid yn sgil y sgism yn y 5g. Cafodd nifer ohonynt eu lladd yng ngoresgyniadau'r Arabiaid yn y 7g, y Mongolwyr yn y 13g, a'r Tyrciaid yn y 14g. Yn sgil gorchfygiad Ymerodraeth yr Otomaniaid yn 1638, unodd y cymunedau Asyriaidd mewn ymgais i gadw eu ffydd. Yn y cyfnod 1914–1924, bu farw cannoedd o filoedd o Asyriaid mewn hil-laddiad gan yr Otomaniaid a'r Persiaid.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ James B. Minahan. Encyclopedia of Stateless Nations (Santa Barbara: Greenwood, 2016), t. 44.