Canolfan Soar
Mae Canolfan Soar (yn aml cyfeirir at Theatr Soar) yn gyfleuster cymunedol rhestredig Gradd II ym Merthyr Tudful, sy’n cynnwys theatr a chyfleusterau eraill. Roedd Capel Zoar yn adeilad rhestredig Gradd II, ac fe'i drawsnewidiwyd yn y 2000au.
Enghraifft o'r canlynol | adeilad, capel, canolfan y celfyddydau, theatr |
---|---|
Crefydd | Annibynwyr |
Lleoliad | Merthyr Tudful |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Y Dref |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Prif Weithredwr y Ganolfan yw Lis McClean a oedd yn un o'r rhai a symbylodd y fenter i droi'r hen capel yn ganolfan gyfoes Gymraeg.
Hanes
golyguCwblhawyd Capel Zoar ym mis Mawrth 1842 ac roedd yn un o gapeli'r Annibynwyr Cymraeg. Disodlodd strwythur cynharach o 1823 ar gost o £2,300. Daeth yr adeilad yn adeilad rhestredig Gradd II ar 22 Awst 1975.[1] Cyn iddo gau yn 2005, roedd wedi bod yn un o gapeli mwyaf Cymru. Bu Joseph Parry, cyfansoddwr Myfanwy, yn arwain y Gymanfa Ganu yno am flynyddoedd.[2]
Disgrifiad o'r adeilad
golyguAdeiladwyd Capel Zoar ar ddau lawr, yn y traddodiad clasurol. Roedd y llawr uchaf yn oriel wythonglog, gyda seddau pren haenog serth ar ddau brif ochr, un pen a dwy adain fer; un rhwng bob ochr a'r diwedd.[3] Adeiladwyd yr adeilad hirsgwar o gerrig rwbel gyda'i fynedfeydd mewn ffryntiad pum bae cymesur ar yr ochr ogleddol. Mae bargod llydan ar y to llechi talcennog. Mae gan y ffenestri bwaog uchaf fariau gwydro Gothig haearnaidd sefydlog.[1]
Hanes cyfoes
golyguDatblygodd cynlluniau ar gyfer creu Canolfan Soar ar seiliau ganolfan Gymraeg ym Merthyr a sefydlwyd yn dilyn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Merthyr Tudful 1987 ym Mharc Cyfarthfa. Fe wna'th hi agor yn swyddogol yn 1991 ac ro'dd hi'n cael ei rhedeg gan dîm o wirfoddolwyr tan daeth y Fenter Iaith i fodolaeth yn 2003.
Dechreuodd Lis McClean weithio yn Soar fel Swyddog Datblygu gan bryderi am gyflwr yr adeilad. Roedd gan yr adeilad gysylltiad teuluol agos â Lis, gan bod ei mam yn un o sylfaenwyr y Cylch Meithrin yn y Ganolfan. Aeth hi i ati i gynllunio prosiect i adnewyddu'r Ganolfan Gymraeg a datblygodd y prosiect dros amser o brosiect £700,000 i ddatblygu festri Capel Soar i fod yn brosiect £1.4 miliwn er mwyn troi'r capel i fod yn theatr. Wedi 6 mlynedd o ymgyrchu a gweithio agorwyd Canolfan Soar ar ei newydd wedd yn swyddogol yn 2011.[4]
Canolfan Soar heddiw
golyguMae Canolfan Soar yn gyfleuster dwyieithog yng nghanol y dref. Mae'n cynnwys theatr, stiwdio ddawns, ystafelloedd ymarfer cerdd, caffi bar, siop lyfrau, ystafelloedd dysgu a chyfleusterau arddangos, cyfarfod a chynadledda hyblyg. Wrth ei gwraidd mae Theatr Soar, lleoliad clos ar gyfer y celfyddydau perfformio. Cynhaliodd ei awditoriwm 200 sedd ei berfformiad agoriadol ym mis Chwefror 2011. Fe wnaeth chwe blynedd o gynllunio, codi arian a datblygu drawsnewid Capel Zoar, a'r adeilad festri cyfagos.[5]
Gwerth economaidd
golyguYn 2015 amcangyfrifwyd bod Canolfan Soar yn dod â gwerth £1 miliwn i'r economi lleol. [6]
Adnoddau a Gwasanaethau
golyguMae Canolfan Soar yn cynnwys:[7]
- Siop Lyfrau'r Enfys - gwerthir llyfrau Cymraeg a Chymreig, gemwaith a nwyddau Cymreig a gweinir bwyd a diodydd poeth ac oer.
- Caffi Soar - sy'n gweini bwyd a diodydd poeth ac oer a chynnyrch lleol fel Mêl Torfaen a chynnyrch Bragdy Twt Lol. Mae ar yr un safle agored â Siop yr Enfys.
- Menter Iaith Merthyr Tudful - mae'r Fenter yn rhan o rwydwaith Mentrau Iaith Cymru
- Gwersi Cymraeg - ceir lleoliadau ar gyfer dysgu Cymraeg yn y Ganolfan.
- Y Consortiwm Cymraeg - cydweithrediad newydd rhwng y cwmni theatr arobryn Theatr na nÓg, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Theatr Soar a Neuadd Les Ystradgynlais, gyda’r nod o gyd-gynnal theatr hygyrch o’r safon uchaf yn yr iaith Gymraeg.[8]
- Criw Brwd - Cwmni theatr dwyieithog yng Nghaerdydd sydd â'i wreiddiau yn y cymoedd, sydd wedi ymarfer yn y Ganolfan a chyflwyno cynyrchiadau.[9]
Digwyddiadau
golyguMae'r Ganolfan, neu'r hyn a elwir yn Theatr Soar, wedi cynnal sawl digwyddiad ers ei sefydlu. Mae'r rhain yn cynnwys cyngherddau megis un gan yr ensemble gwerin Cymreig, Avanc yn 2021,[10] Cynhadledd YesCymru yn 2019.[11]
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol Canolfan Soar
- Canolfan a Theatr Soar ar Facebook
- eitem ar Siop'n Lleol yn dod o Ganolfan Soar rhaglen Pnawn Da ar S4C, 2019
- Erthygl ar sefydlu'r Ganolfan ar wefan BBC Cymru Fyw, 2015
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Zoar Chapel (Welsh Congregational) (Formerly Listed As Capel Yr Annibynwyr Soar-Ynysgau) High Street – Town – Merthyr Tydfil – Wales". www.britishlistedbuildings.co.uk. British Listed Buildings. Cyrchwyd 1 May 2016.
- ↑ "Canolfan Soar". Chapels Heritage Society website. Chapels Heritage Society. 27 April 2012. Cyrchwyd 20 August 2012.
- ↑ John, Newman (1995). The Buildings of Wales; Glamorgan. Harmondsworth, Lloegr: Penguin Books. t. 84. ISBN 0 14 071056 6.
- ↑ "Seiliau'r Gymraeg yn Soar". =BBC Cymru Fyw. 29 Medi 2015.
- ↑ "Theatr Soar". Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful website. Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful. 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-14. Cyrchwyd 20 August 2012.
- ↑ "Canolfan Gymraeg ym Merthyr 'gwerth £1m' i'r economi leol". BBC Cymru Fyw. 25 Medi 2015.
- ↑ "Amdanom Ni". Gwefan Canolfan Soar. Cyrchwyd 6 Mawrth 2024.
- ↑ "Y Consortiwm Cymraeg". Gwefan Canolfan Soar. Cyrchwyd 6 Mawrth 2024.
- ↑ "Sgwrs gyda Lis McLean o Theatr Soar". Sianel Youtube Criw Brwd. 21 Ebrill 2020.
- ↑ "Avanc - cyngerdd byw yn Theatr Soar". Sianel Youtube Trac. 31 Ionawr 2023.
- ↑ "The Business Case for an Independent Wales by David Buttress". Sianel Youtube YesCymru. 2019.