Bachegraig

plasty a godwyd gan Richard Clough a Chatrin o Ferain yn Ninbych

Plasdy a godwyd gan Syr Rhisiart Clwch (Saesneg: Clough) ym mhlwyf Tremeirchion, Sir Ddinbych oedd Bachegraig (hefyd: Bach-y-graig a Bachegre) a chredir mai'r plasty hwn oedd yr adeilad brics cyntaf yng Nghymru.[1][2] Cyfeirnod OS: SJ0751671262. Roedd Syr Rhisiart Clwch (tua 1530–1570) yn farsiandïwr cyfoethog a fu'n asiant i Elisabeth I, brenhines Lloegr ac yn gynrychiolydd Syr Thomas Gresham ar gyfandir Ewrop. Bu farw yn Hamburg yn yr Almaen yn 1570. Ei ail wraig oedd Catrin o Ferain, aeres gyfoethog plas Berain, Dyffryn Clwyd.

Darlun o Bachegraig a wnaed rhwng 1773 a 1776
Bachegraig
Ysgythriad gan Richard Bernard; 1776

Adeiladodd Clwch blasdy Bachegraig yn 1567 yn bennaf ar gyfer ei waith; adeiladwyd Plas Clough, rhwng Dinbych a Threfnant yn brif gartref i'r teulu tua'r un adeg. Roedd yn adeilad arloesol yng Nghymru a'i arddull yn seiliedig ar bensaernïaeth newydd cyfnod y Dadeni ar gyfandir Ewrop. Dyma'r tŷ cyntaf yng Nghymru i'w adeiladu â phriddfeini (brics), hyd y gwyddys,[3] a'r rheiny wedi'u mewnforio o'r Iseldiroedd.[2]

Oherwydd ei waith yn mewnforio deunydd adeiladu gorwych o'r cyfandir i rai o wŷr blaenllaw Llundain a rhannau eraill o Loegr, penderfynodd Clwch godi tŷ yn yr arddull newydd iddo ef wi hun yn Nhremeirchion. Roedd yn adeiladwaith cwbl estron i'r ardal. Er bod brics wedi cael eu defnyddio cyn hynny ambell dro gyda choed i godi tai, hwn oedd y tŷ brics cyntaf yng Nghymru. Roedd yn beth prin yn Lloegr hefyd, lle cofnodir yr enghraifft gynharaf yn 1510.[4]

Adeiladwyd Bachegraig ar gynllun Eidalaidd. Roedd porth mawr iddo. Gosodwyd ffenestr gwydr lliw ysblennydd yn y mur, yn dangos arfau Syr Clwch.

Noddai Clwch a'i wraig Catrin rai o feirdd gogledd-ddwyrain Cymru, yn cynnwys Simwnt Fychan a ganodd gywydd mawl i Clwch a Bachegraig tua 1567-70:

Adeilodd, cyfleoedd lys,
Adail wen a dâl ynys;
Gwnai fel Berwig neu Fwlen
Gaer galch ym Machegraig wen.
Main nadd fel y mynnodd fo,
Main o Antwerp maen' yno;
Main a gwŷdd man y gwedda,
Marbwl ystôns mawrblas da.[5]

Cysylltir traddodiadau llên gwerin â Bachellgraig a'i berchennog. Cafodd y tŷ ei godi yn hynod o gyflym a sibrydid mai gwaith y Diafol ydoedd. Roedd cyflenwad newydd o ddeunydd adeiladu i'w cael bob bore mewn nant a elwir o hyd yn Nant y Cythraul. Roedd rhai yn credu fod Clwch yn astudio'r sêr mewn stafell ym mhen y tŷ gyda chymorth y Diafol ei hun. Torrodd ei wraig Catrin i mewn i'r stafell un noson a dihangodd y Diafol trwy'r mur yn dal Clwch yn ei freichiau![6]

Cafodd y plasdy (ar wahan i'r porth ac adeiladau'r fferm) ei ddymchwel ar ddechrau'r 19eg ganrif gan ei berchnogion newydd, Hester Lynch Piozzi (1741 - 1821) a'i gŵr, a chodwyd tŷ Brynbella yn ei le. Mae gerddi'r tŷ hwnnw yn agored i'r cyhoedd yn achlysurol ond does dim olion o gwbl o blasdy Bachegraig i'w gweld yno.

Dolennau allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwefan Sir Ddinbych". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-04-15. Cyrchwyd 2010-07-14.
  2. 2.0 2.1 "Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2010-07-14.
  3. Enid Roberts, Tai Uchelwyr y Beirdd 1350-1650 (Cyhoeddiadau Barddas, 1986), tud. 37.
  4. The Archaeology of Clwyd (Cyngor Sir clwyd, 1991), tud. 213.
  5. Simwnt Fychan, dyfynnir yn Tai Uchelwyr y Beirdd 1350-1650, tud. 36.
  6. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, d.g. Bachegraig.