Plas Clough
Codwyd Plas Clough, sy'n adeilad Gradd II* (rhif cofrestriad Cadw: 1064), gan Syr Rhisiart Clwch (g.? - 1570; Saesneg: Richard Clough); marsiandwr a chynrychiolydd Syr Thomas Gresham (am gyfnod) yn Ewrop oedd Rhisiart Clwch a drigodd yn Antwerp, yn yr Iseldiroedd rhwng 1552 a 1567.[1] Ef a awgrymodd sefydlu 'r Gyfnewidfa Frenhinol yn Llundain i Syr Thomas Gresham.
Math | plasty gwledig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinbych |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 73.3 metr |
Cyfesurynnau | 53.1983°N 3.41176°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Yn yr Iseldiroedd, cyflwynwyd y cartograffydd a'r Is-Ellmynnwr Abraham Ortelius i ysgolhaig arall o Sir Ddinbych, Humphrey Lhuyd. Priododd Clwch gyda Mam Cymru, fel y'i gelwid, sef Catrin o Ferain pan ddychwelodd o Antwerp a chododd y ddau dŷ priodasol, sef Plas Clough. Daeth yn ail ŵr iddi yn 1567. Hwn oedd cartref y teulu, ond tua'r un pryd (o fewn dwy flynedd iddynt briodi) codwyd tŷ arall yn y cyffiniau, sef Bach-y-Graig (neu 'Bachegraig') a ddefnyddiai ar gyfer ei waith. Rhan yn unig o Fach-y-Graig sy'n dal i sefyll, wedi i gorff y plasty gael ei ddymchwel yn C19. Roedd Plas Clough yn fwy traddodiadol, a hwn yn sicr oedd eu prif gartref. Mae'r ddau adeilad yn hynod bwysig gan mai dyma'r mannau cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio bric mewn waliau a oedd yn cynnal pwysau lloriau eraill uwch ben. Ym Mhlas Clogh hefyd y defnyddiwyd, am y tro cyntaf, y crow-stepped gable, motiff neu addurn Iseldireg, a gopiwyd ym mhensaerniaeth llawer o adeiladau wedyn, yng Ngogledd Cymru.
Bu farw Clough yn Hamburg rywbryd rhwng 11 Mawrth a 19 Gorffennaf 1570 a chladdwyd ef yn y dref honno, ond dygwyd ei galon yn ôl i Gymru i'w chladdu yn yr Eglwys Wen, Dinbych.
Yn y C19 ychwanegwyd ffenestri llithro (sash); gellir gweld hyd heddiw "RC" a'r dyddiad "1567" ar y waliau. Ond nad nad ydynt i'w gweld mewn llun a dynnwyd gan Moses Griffith yn y 1770au, efallai iddynt cael eu dwyn yma o Bach-y-Graig.[2]
Gweler hefyd
golygu- Neuadd Colomendy ym mhlwyf Llanferres
- Botryddan; plasdy hynafol ar gyrion pentref Diserth, ger Rhuddlan
- Foxhall Newydd; plasty yng nghymuned Henllan
Cyfeiriadau
golygu- ↑ y Y Bywgraffiadur Cymreig; adalwyd 31 Gorffennaf 2016
- ↑ britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 31 Gorffennaf 2016