Bae yn Nhalaith Chubut yn yr Ariannin yw Bae Newydd (Sbaeneg: Golfo Nuevo. Ffurfir y bae gan y Península Valdés ar un ochr a Punta Ninfas ar yr ochr arall. Mae tua 650 milltir (1,046 km) i'r de-orllewin o Buenos Aires. Y dref fwyaf ar y bae yw Porth Madryn.

Bae Newydd
Mathbight Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Chubut Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Ariannin Yr Ariannin
Cyfesurynnau42.7°S 64.5°W Edit this on Wikidata
Map

Yn niwedd 1862 aeth Capten Love Jones-Parry a Lewis Jones i Batagonia i weld a oedd yn addas ar gyfer ymfudwyr Cymreig. Cyraeddasant mewn llong fechan o’r enw "Candelaria", a gyrrwyd hwy gan storm i'r bae, ac enwyd y porthladd naturiol yn "Borth Madryn" ganddynt, ar ôl cartref Jones-Parry. Yma y glaniodd yr ymfudwyr Cymreig cyntaf yn 1865.

Rhwng mis Mai a mis Rhagfyr, mae morfilod yn ymgasglu yma i fagu, ac yn atyniad pwysig i dwristiaid.