Honoré de Balzac
Llenor o Ffrainc oedd Honoré de Balzac (20 Mai 1799 – 18 Awst 1850) a arbenigai yn y ddrama a'r nofel. Ei ' fagnwm opws' oedd nofel-ddilyniant o storiau byrion a nofelau a gasglwyd ynghyd dan y teitl La Comédie humaine, sy'n cynnig panorama o fywyd Ffrengig yn dilyn marw Napoleon Bonaparte yn 1815.
Honoré de Balzac | |
---|---|
Ffugenw | Horace de Saint-Aubin, Lord R’Hoone, Viellerglé, Saint Aubin |
Ganwyd | 20 Mai 1799 Tours |
Bu farw | 18 Awst 1850 o madredd Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Addysg | Bagloriaeth yn y Gyfraith |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | nofelydd, beirniad llenyddol, llenor, rhyddieithwr, newyddiadurwr, beirniad celf, awdur ysgrifau, dramodydd, cyhoeddwr |
Swydd | president of the Société des gens de lettres |
Adnabyddus am | Père Goriot, The human comedy, Illusions perdues, Eugénie Grandet, Splendeurs et misères des courtisanes, La Peau de chagrin, Les Chouans |
Prif ddylanwad | Walter Scott, Georges-Louis Leclerc, Comte de Buffon |
Mudiad | realaeth |
Tad | Bernard-François Balzac |
Mam | Anne-Charlotte-Laure Sallambier |
Priod | Ewelina Hańska |
Partner | Olympe Pélissier, Maria du Fresnay, Caroline Marbouty, Laure de Berny, Henriette de Maillé de La Tour-Landry |
Plant | Marie-Caroline Du Fresnay |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur, Q130762055 |
llofnod | |
Roedd Balzac yn hoff o'r manylyn lleiaf a disgrifiadau cignoeth o gymdeithas, gelwir ef yn un o bobl blaenllaw'r mudiad 'Realaeth' o fewn llenyddiaeth Ewropeaidd. Mae sawl ochr i'w gymeriadau, haenau o gymhlethdodau - sy'n aml yn bobl ag iddynt foesau amwys, anghonfensiynol. Dylanwadodd ar lawer, gan gynnwys y nofelwyr: Marcel Proust, Émile Zola, Charles Dickens, Anthony Trollope, Edgar Allan Poe, Eça de Queirós, Fyodor Dostoyevsky, Oscar Wilde, Gustave Flaubert, Benito Pérez Galdós, Marie Corelli, Henry James, William Faulkner, Jack Kerouac, a Italo Calvino, a'r athronwyr Friedrich Engels a Karl Marx. Trowyd llawer o'i waith yn ffilmiau ac fe'i cyfieithwyd i nifer o ieithoedd.
Llyfryddiaeth ddethol
golyguNofelau
golygu- La Peau de chagrin (1831)
- Eugénie Grandet (1833)
- Le Père Goriot (1835)
- Les Illusions perdues (I, 1837; II, 1839; III, 1843)
- La Cousine Bette (1846)
- Splendeurs et misères des courtisanes (1847)
Dramâu
golygu- Cromwell (1820)
- Ressources de Quinola (1842)
- Paméla Giraud (1843)
- La Marâtre (1848)
- Mercadet ou le Faiseur (1848)
Dolenni allanol
golygu- Testun Ffrangeg Le Père Goriot Archifwyd 2005-12-19 yn y Peiriant Wayback