Banc Cymru

adran fasnachol o Fanc yr Alban plc sy'n darparu cynnyrch cynilo drwy is-gwmnïau yswiriant bywyd.

Mae Banc Cymru (Saesneg: Bank of Wales) yn adran fasnachol o Fanc yr Alban plc sy'n darparu cynnyrch cynilo drwy is-gwmnïau yswiriant bywyd.

Banc Cymru
Math
busnes
DiwydiantArianneg
Sefydlwyd30 Hydref 1971
SefydlyddJulian Hodge
PencadlysCaerdydd
Cynnyrchgwasanaethau ariannol
Rhiant-gwmni
Lloyds Banking Group
Gwefanhttp://www.bankofwales.co.uk/ Edit this on Wikidata

Sefydlwyd Banc Cymru gan Syr Julian Hodge ar 30 Hydref 1972.[1] Roedd y cwmni yn darparu gwasanaethau bancio masnachol i gwmnïau bach a canolig yng Nghymru.[2]

 

O'r dechrau roedd Sir Julian Hodge am enwi'r cwmni yn Banc Cymru ond yn dilyn gwrthwynebiad gan Gofrestr y Cwmnïau a Banc Lloegr oedd yn honni y gallai'r enw awgrymu banc canolog, penderfynwyd cyfaddawdu gyda'r enw Banc Masnachol Cymru (Saesneg: Commercial Bank of Wales).[2] Yn y diwedd fe newidiwyd yr enw yn swyddogol i Banc Cymru (Bank of Wales) yn Rhagfyr 1986. Erbyn y flwyddyn 2000 roedd ganddo saith swyddfa ranbarthol ac asedau o dros £460 miliwn.[2]

Cychwynnodd y banc mewn adeilad ar Heol Santes Fair, ond yn 1989 symudodd adeilad newydd sbon ar Ffordd y Brenin, gyferbyn a Chastell Caerdydd, a ddefnyddiwyd nes ymlaen gan Awdurdod Datblygu Cymru.

Fe gymrwyd y banc drosodd gan Banc yr Alban yn 1986 ac fe beidiodd masnachu o dan y brand Cymreig yn 2002.[2] Yn 2009, fe wnaeth cadeirydd y Sefydliad Materion CymreigGeraint Talfan Davies, ddatgan fod yr argyfwng bancio yn dangos fod angen adfywio'r brand.[3]

Yn Rhagfyr 2014 cyhoeddodd Grŵp Bancio Lloyds ei fod am ail-sefydlu Banc Cymru fel darparwr cynilion.[4]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Hafina Clwyd, Rhywbeth Bob Dydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2008), t.137
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Davies, John; Jenkins, Nigel (2008). The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales. Cardiff: University of Wales Press. t. 49. ISBN 978-0-7083-1953-6.
  3. "Bring back the Bank of Wales". Western Mail. 21 Chwefror 2009. Cyrchwyd 12 Medi 2010.
  4. telegraph.co.uk; adalwyd 30 Hydref 2017.

Dolenni allanol

golygu