Baner Nicaragwa

baner

Mabwysiadwyd baner Nicaragwa (baner Nicaragua) gyntaf ar 4 Medi 1908 ond ni fabwysiadwyd yn swyddogol nes 27 Awst 1971. Mae Nicaragwa yn weriniaeth yng Nghanolbarth America. Mae ei baner bron gopi perffaith o faner wreiddiol Gweriniaeth Ffederal Canolbarth America sy'n sail i nifer o faneri eraill Canolbarth America. Bu peth mân newid rhwng yr arfbais ar faner 1908 a'r un yn 1971.

Baner Nicaragwa
Enghraifft o'r canlynolbaner cenedlaethol Edit this on Wikidata
Lliw/iauglas, gwyn Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu27 Awst 1971 Edit this on Wikidata
Genrehorizontal triband Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baner gyfredol Nicaragwa. Cymesuredd, 3:5

Dyluniad y Faner

golygu
 
Baner Nicaragwa a baner mudiad a llywodraeth y Sandinista yn yr 1980au

Mae'r baner yn cynnwys tri band llorweddol o faint cyfartal: ceir band gwyn yn y canol a bandiau glas uchben ac islaw. Dyma liwiau traddodiadol gwledydd Canol America ac fe'i hysbrydolwyd gan fudiad ymreolaeth a gweriniaethol yr Ariannin a adlewyrchid ym maneri Ariannin ac Wrwgwái.

Mae'r bandiau glas yn cynrychioli y Môr Tawel a'r Môr y Caribî sy'n llifo ar naill ochr i'r wlad. Mae'r band gwyn yn cynrychioli heddwch.[1] Ynghannol y band gwyn celr yr arfbais genedlaethol. Mae hwn union yr un fath ag arfbais Gweriniaeth Ffederal Canolbarth America: pum llosgfynydd, sy'n symboli'r Taleithiau Unedig gwreiddiol (Costa Rica, Gwatemala, Hondwras, Nicaragwa ac El Salfador). Yr unig wahaniaeth rhwng baner gyfredol Nicaragwa a'r faner Gweriniaeth Ffederal wreiddiol yw fod yr arysgrif ar yr arfbais yn darllen República de Nicaragua - America Central yn hytrach na Provincias Unidas del Centro de America a bod glas baner cyfredol Nicaragwa yn dywyllach na'r faner wreiddiol.[2]

Prin yw'r gwahaniaeth rhwng baner gyfredol (ôl-1971) a'r faner a ddefnyddiwyd rhwng 1908-1971. O edrych yn fanwl, gwelir bod steil dyluniad yr arfbais ychydig yn wahanol. Gan gadw'r holl brif nodweddion - enfys, cap Phyrgaidd, pump llosgfynydd, moroedd y Caribî a'r Môr Tawel - gwelir fod dyluniad yr enfys a'r moroedd wedu eu darlunio ychydig yn wahanol.

Un hynodrwydd o faner Nicaragwa yw ei fod, oherwydd cynnwys darlun o'r enfys, yn un o'r unig ddau faner sy'n cynnwys y lliw porffor mewn baner genedlaethol. Y faner arall sy'n cynnwys y lliw yw baner Dominica lle y ceir ym mhlu y parot Sisserou.

Baneri Hanesyddol Nicaragwa

golygu

Baneri Tebyg

golygu

Oherwydd perthynas agos rhwng Gwatemala a gwledydd cyfagos yn sgil ceisio creu un wladwriaeth neu weriniaeth unedig, ceir tebygrwydd amlw rhwng baneri'r gwledydd o ran lliw a dyluniad:

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu

Nodyn:Egin baneri