Belle Vue

stadiwm pêl-droed, C.P.D. Y Rhyl

Stadiwm chwaraeon yn nhref Y Rhyl, Sir Ddinbych ydy Belle Vue sy'n cael ei adnabod, am resymau nawdd, fel Stadiwm Corbett Sports. Mae'n gartref i bêl-droed yn y dref ers i glybiau Rhyl Athletic a Rhyl Town uno i ffurfio Rhyl United ym 1898 a symud i Belle Vue er mwyn chwarae yng Nghynghrair y Combination League - cynghrair ar gyfer prif dimau Manceinion,Sir Gaerhirfryn, Sir Gaer a gogledd Cymru.[1][2]

Belle Vue
Mathstadiwm pêl-droed Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1892 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirC.P.D. Y Rhyl Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.3189°N 3.4761°W Edit this on Wikidata
Map
Belle Vue
Stadiwm Corbett Sports
Enw llawnStadiwm Corbett Sports
LleoliadY Rhyl, Sir Ddinbych
Uchafswm Torf2,500
Agorwyd1899
Tenantiaid
C.P.D. Y Rhyl

Y stadiwm golygu

Cafwyd cryn ddatblygiad i'r stadiwm ers troad yr 21fed ganrif gyda sawl eisteddle newydd yn cael eu codi er mwyn sicrhau fod Belle Vue yn gallu cynnal gemau yng nghystadlaethau Uefa.[3]

Mae Eisteddle Don Spendlove, sydd â'r ystafelloedd newid oddi tano, wedi esblygu o fod yn eisteddle oedd yn dal 200 o seddi i fod yn eisteddle sydd yn rhedeg ar hyd ochr y maes ac yn cynnwys lloc y wasg. Codwyd Eisteddle Coronation Gardens tu ôl i un gôl ac Eisteddle George James gyferbyn â'r twnnel.[3] Mae'r stadiwm yn dal uchafswm torf o 2,500 gyda 1,720 o seddi.[4]

Gemau cofiadwy golygu

Ym 1961-62 cynhaliwyd trydedd gêm rownd derfynol Cwpan Cymru ar Belle Vue rhwng Bangor a Wrecsam. Bryd hynny, nid oedd cyfanswm goliau dros ddau gymla yn cael ei ddefnyddio, felly wedi i Wrecsam ennill y cymal cyntaf ar Y Cae Ras ac wedi i Fangor ennill yr ail gymal ar Ffordd Farrar, cafwyd trydedd gêm ar faes niwtral Belle Vue.[5]

Chwaraeodd Y Rhyl eu gêm gyntaf erioed yng Nghynghrair y Pencampwyr yn erbyn Skonto FC o Latfia ar Belle Vue ar 21 Gorffennaf 2004 - gêm welodd Y Rhyl yn colli 1-3.[6]

Mae Belle Vue hefyd wedi cynnal gemau 'cartref' yng nghystadlaethau Uefa i glybiau Bangor[7][8] a'r Bala.[9][10]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Belle Vue stadium, Rhyl". History Points.
  2. "Welsh football Data Archive: Combination League 1898-99". Welsh Football Data Archive. Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. 3.0 3.1 "Rhyl FC Ground Info". Rhyl FC. Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "Stadia: Belle Vue". Welsh-Premier.com.[dolen marw]
  5. "Welsh Cup Final 1961-62". Welsh Football Data Archive. Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. "Rhyl 1-3 Skonto". Uefa. Unknown parameter |published= ignored (help)
  7. "Bangor City 0-1 Gloria Bistrata". Welsh Football Data Archive. Unknown parameter |published= ignored (help)
  8. "Bangor City 1-2 Dinaburg". Welsh Football Data Archive. Unknown parameter |published= ignored (help)
  9. "Canlyniad Campus i'r Bala". Sgorio. Unknown parameter |published= ignored (help)
  10. "Y Bala 2-1 Differdange 03". Sgorio. Unknown parameter |published= ignored (help)