Stadiwm Ffordd Farrar

Stadiwm chwaraeon yn ninas Bangor, Gwynedd oedd Ffordd Farrar. Fe'i hagorwyd ym 1879 wedi i'r Arglwydd Penrhyn roi llecyn o dir i glwb criced y ddinas.[1] Roedd yn gartref i Glwb Pêl-droed Dinas Bangor am 91 o flynyddoedd cyn cael eid dymchwel yn 2012 er mwyn adeiladu archfarchnad.[2]

Stadiwm Ffordd Farrar
Mathstadiwm Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1922 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1922 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadBangor Edit this on Wikidata
SirBangor Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2242°N 4.1314°W Edit this on Wikidata
Map
Stadiwm Ffordd Farrar
Golygfa o Ffordd Farrar
Enw llawnStadiwm Ffordd Farrar
LleoliadBangor, Gwynedd
Agorwyd1879
Dymchwelwyd2011
Tenantiaid
Clwb Criced Bangor (1879-1929)
C.P.D. Dinas Bangor (1920-2011)

Blynyddoedd cynnar

golygu

Cafodd y tir ger y British Hotel ei gyflwyno i Glwb Criced Bangor ym 1879 gan yr Arglwydd Penrhyn ond ar ôl gwaith atgyweirio i lefelu'r maes ym 1894-95, dechreuodd clwb hoci Prifysgol Bangor ddefnyddio'r maes tra bod clwb pêl-droed Bangor hefyd yn gwneud defnyddio o'r cae ar gyfer gemau yng Nghwpan Cymru gan fod eu maes arferol ym Maes y Dref yn rhy fychan.[1]

Roedd Maes y Dref wedi ei droi'n randdaliadau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf felly ar ddiwedd y rhyfel symudodd Clwb Pêl-droed Dinas Bangor i Ffordd Farrar yn barhaol gan rannu'r maes efo'r clwb criced hyd nes 1929 pan symudodd y clwb criced i faes newydd yn Llandegai.[1][3]

Y Stadiwm

golygu

Ym 1930 prynnodd y clwb hen eisteddle Caernarvon Athletic am £80 wedi'r clwb o Gaernarfon fynd i'r wal a chafodd yr eisteddle newydd ei chodi ar ochr Ffordd Farrar y maes. Ym 1936 agorwyd eisteddle pren newydd ar ochr Ffordd Sackville y maes er cof am Arnold Dargie, cyn chwaraewr gyda Bangor, Lerpwl a thîm amatur Cymru. Arianwyd yr eisteddle gan Thomas Dargie, tad Arnold, oedd hefyd yn lywydd Cymdeithas Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru. Roedd Eisteddle Dargie yn cael ei ddefnyddio hyd nes dymchwel y maes yn 2012.[1]

Gemau cofiadwy

golygu

Cynhaliwyd rownd derfynol Cwpan Cymru rhwng Caerdydd a Bangor ar Ffordd Farrar ym 1927-28 gyda 12,000 o dorf yn dod i wylio'r Adar Gleision yn trechu'r tîm cartref 2-0[4] ac ym 1952-53 cynhaliwyd rownd derfynol Cwpan Cymru ar y maes, gêm welodd Y Rhyl yn curo Dinas Caer 2-1.[5]

Ym 1962, llwyddodd Bangor i drechu Napoli 2-0 yng Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop a dod y tîm cyntaf o Gymru i ennill yn un o gystadlaethau Uefa.[6] ac ym 1985, croesawyd Atlético Madrid i Ffordd Farrar yn yr un gystadleuaeth.[7]

Gêm olaf

golygu

Ym mis Ebrill 2011 rhoddodd Gyngor Gwynedd hawl cynllunio i gwmni Asda i ddymchwel y stadiwm a chodi archfarchnad newydd gan ganiatau Bangor i symud i stadiwm newydd yn Nantporth.[8] Chwaraewyd y gêm olaf ar Ffordd Farrar ar 27 Rhagfyr 2011 wrth i Fangor drechu Prestatyn 5-3 yn Uwch Gynghrair Cymru.[9]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 "Highlights from the history of Bangor City's Farrar Road stadium". Bangor City FC Historical Blog. Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "Demolition begins at Bangor City FC's Farrar Road ground". Daily Post.
  3. "Bangor timeline". Bangor Civic Society. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-08. Cyrchwyd 2016-04-01.
  4. "1927-28 Cardiff City 2-0 Bangor City". Welsh Football Data Archive. Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "1952-53 Rhyl 2-1 Chester City". Welsh Football Data Archive. Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. "Bangor City say farewell in style to Farrar Road ground". Unknown parameter |published= ignored (help)
  7. "Bangor City celebrate 30th anniversary of Atletico Madrid tie". Daily Post. Unknown parameter |published= ignored (help)
  8. "Bangor City's Farrar Road ground to be replaced by Asda". BBC Cymru. Unknown parameter |published= ignored (help)
  9. "Gwledd o Goliau yng Ngêm Olaf Ffordd Farrar". Golwg360. Unknown parameter |published= ignored (help)

Dolenni allanol

golygu