C.P.D. Tref y Bala
Clwb pêl-droed o dref Y Bala, Gwynedd ydy Clwb Pêl-droed Tref Y Bala (Saesneg: Bala Town Football Club). Mae'r clwb yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, prif adran bêl-droed yng Nghymru.
Enw llawn | Clwb Pêl-droed Y Bala | ||
---|---|---|---|
Llysenw(au) | Lakesiders | ||
Sefydlwyd | 1880 | ||
Maes | Maes Tegid | ||
Cadeirydd | Paul Higginson | ||
Rheolwr | Colin Caton | ||
Cynghrair | Uwch Gynghrair Cymru | ||
2023/24 | 3. | ||
|
Mae lle i gredu fod clwb pêl-droed yn bodoli yn Y Bala ym 1880, ac er fod y llinach i'r clwb presennol yn aneglur, mae'r clwb yn cydnabod 1880 fel y blwyddyn y cafodd ei ffurfio[1].
Chwaraeir eu gemau cartref ar Faes Tegid, Y Bala, maes sydd yn dal uchafswm o 3,000 o dorf gyda 504 o seddi.
Pêl-droed Yn Y Bala
golyguRoedd clwb pêl-droed yn bodoli yn nhref Y Bala yn ystod y 1870au a chwaraeodd clwb o'r dref yng nghystadleuaeth cyntaf Cwpan Cymru ym 1877-78[2] ac unwaith eto ym 1879-80[3]. Yn rhyfedd ddigon, colli yn erbyn Corwen ddwywaith oedd hanes y clwb o'r Bala.
Er fod clybiau Bala North End, Bala South End a Bala Thursdays yn bodoli yn y dref ers 1880, nid oes unrhyw record o glwb o'r Bala mewn unrhyw gystadleuaeth hyd nes Cwpan Cymru 1913-14 pan chwaraeodd Bala Press yn y gystadleuaeth am yr unig dro[4]. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, fel mewn sawl tref ar hyd a lled Cymru, cafwyd clwb o'r enw Bala Comrades yng Nghwpan Cymru ar gyfer tymor 1920-21[5] ond erbyn y flwyddyn canlynol roedd y clwb wedi hepgor y gair Comrades o'u henw ac wedi ymuno â Chynghrair Gogledd Ddwyrain Cymru[1].
Chwaraeodd clwb Bala Royal British Legion yng Nghwpan Cymru ym 1926-27 a 1927-28[6][7].
Erbyn y 1950 roedd Y Bala wedi dechrau defnyddio'r enw Bala Town, wedi symud i chwarae eu gemau ar Faes Tegid ac wedi ymuno â Chynghrair Wrecsam a'r Cylch[8] ond bu rhaid disgwyl dros hanner canrif i sicrhau dyrchafiad i'r Gynghrair Undebol yn 2003-04[9].
Yn 2008-09, llwyddodd Y Bala i gipio pencampwriaeth y Gynghrair Undebol a sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru[10].
Record yn Ewrop
golyguTymor | Cystadleuaeth | Rownd | Clwb | Cymal 1af | 2il Gymal | Dros Ddau Gymal |
---|---|---|---|---|---|---|
2013–14 | Cynghrair Europa UEFA | Rhag 1 | Levadia Tallinn | 1-0 | 1-3 | 2–3 |
2015–16 | Cynghrair Europa UEFA | Rhag 1 | Differdange 03 | 1-3 | 2-1 | 3-4 |
2016–17 | Cynghrair Europa UEFA | Rhag 1 | AIK | 0-2 | 0-2 | 0-4 |
2017–18 | Cynghrair Europa UEFA | Rhag 1 | Vaduz | 1-2 | 0-3 | 1-5 |
2018–19 | Cynghrair Europa UEFA | Rhag 1 | Tre Fiori | 1–0 | 0−3 | 1–3 |
2020–21 | Cynghrair Europa UEFA | Rhag 1 | Valletta | N/A | 0-1 | N/A |
Anrhydeddau
golygu- Cwpan Cymru
- Enillwyr 2016-17
- Cwpan Cynghrair Cymru
- Cyrraedd Rownd Derfynol: 2013-14, 2014-15
- Gemau Ail Gyfle Cynghrair Europa
- Enillwyr: 2012-13
Chwaraewyr nodedig
golygu- David Artell - 7 cap dros Gibraltar 2014-2015
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Bala Town: General Information". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-03. Cyrchwyd 2014-08-18. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Welsh Football Data Archive:Welsh Cup 1877-78". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Welsh Football Data Archive:Welsh Cup 1879-80". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Welsh Football Data Archive:Welsh Cup 1913-14". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Welsh Football Data Archive:Welsh Cup 1920-21". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Welsh Football Data Archive:Welsh Cup 1926-27". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Welsh Football Data Archive:Welsh Cup 1927-28". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Welsh Data Archive:Wrexham Area 1950-51". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Welsh Football Data Archive: Wrexham Area 2003-04". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Welsh Football data Archive: Cymru Alliance 2008-09". Unknown parameter
|published=
ignored (help)
Uwch Gynghrair Cymru, 2021–2022 | ||
---|---|---|
Aberystwyth |
Caernarfon |
Cei Connah |
Derwyddon Cefn |
Hwlffordd |
Met Caerdydd | |