Llanofer

pentref yn Sir Fynwy

Pentref a chymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw Llanofer[1] (Saesneg: Llanover).[2] Mae'n gorwedd ar y briffordd A4042, i'r de o'r Fenni.

Llanofer
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGoetre Fawr Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7667°N 2.9833°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Davies (Ceidwadwr)
Map

Cysylltir Llanofer yn fwyaf arbennig ag Augusta Hall, Arglwyddes Llanover, a aned gerllaw ac a ddaeth yn amlwg iawn fel noddwraig y diwylliant a'i iaith Gymraeg yn y 19g. Mae Penelope Fillon, gwraig y cyn-Brif Weinidog Ffrainc, François Fillon, yn frodor o'r pentref.

Ceir croes eglwysig bychan tuag un fetr yn yr eglwys, sef Sylfaen Croes Llanddewi Rhydderch. Mae Croes Llanofer hefyd gerllaw.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan David Davies (Ceidwadwr).[4]

Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Rhydderch, Llanofer


Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanofer (pob oed) (1,392)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanofer) (104)
  
7.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanofer) (863)
  
62%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llanofer) (200)
  
33.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru", Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 12 Mehefin 2023
  2. British Place Names; adalwyd 12 Mehefin 2023
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-21.
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]