Beryl Bainbridge
Llenor o Saesnes oedd Y Fonesig Beryl Margaret Bainbridge DBE (21 Tachwedd 1932 - 2 Gorffennaf 2010)[1]. Roedd hi'n adnabyddus yn bennaf am ei gweithiau ffuglen seicolegol, yn aml straeon echrysol wedi'u gosod ymhlith dosbarth gweithiol Lloegr. Enillodd Bainbridge Wobr Whitbread am y nofel orau ym 1977 a 1996; cafodd ei henwebu pum gwaith ar gyfer y Wobr Booker.
Beryl Bainbridge | |
---|---|
Ganwyd | 21 Tachwedd 1932 Lerpwl |
Bu farw | 2 Gorffennaf 2010 o canser Llundain, University College Hospital |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, sgriptiwr, nofelydd, llenor, arlunydd, adolygydd theatr |
Swydd | beirniad Gwobr Booker |
Gwobr/au | Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Gwobr Goffa James Tait Black, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, David Cohen Prize |
Cefndir
golyguGaned Beryl Bainbridge yn Lerpwl a'i magu yn Formby gerllaw. Ei rhieni oedd Richard Bainbridge a Winifred Baines.
Roedd hi'n mwynhau ysgrifennu, ac erbyn 10 oed roedd hi'n cadw dyddiadur.[2] Cafodd wersi llais a, phan oedd hi'n 11 oed, ymddangosodd ar sioe radio Northern Children Hour,[3] ochr yn ochr â Billie Whitelaw a Judith Chalmers. Cafodd Bainbridge ei diarddel o Ysgol Merched Merchant Taylors (Crosby) oherwydd iddi gael ei dal a "cherdd fudr" (fel y disgrifiodd hi yn ddiweddarach), a ysgrifennwyd gan rywun arall, ym mhoced ei ffrog.[4] Yna aeth ymlaen i astudio yn Ysgol Cone-Ripman, Tring, Swydd Hertford (Ysgol Celfyddydau Perfformio Tring Park erbyn hyn),[5] lle canfu ei bod yn dda mewn hanes, Saesneg a chelf.
Bywyd personol
golyguYr haf y gadawodd yr ysgol, fe syrthiodd mewn cariad â chyn Carcharor rhyfel o'r Almaen a oedd yn aros i gael ei ddychwelyd. Am y chwe blynedd nesaf, bu'r cwpl yn gohebu ac yn ceisio cael caniatâd i'r dyn o'r Almaen ddychwelyd i Brydain fel y gallent briodi. Ond gwrthodwyd caniatâd a daeth y berthynas i ben ym 1953.
Yn y flwyddyn ganlynol (1954), priododd Bainbridge yr artist Austin Davies. Ym 1958, ceisiodd hunanladdiad trwy roi ei phen mewn popty nwy.[6] Ysgarodd y ddau yn fuan wedi hynny, gan adael Bainbridge yn fam sengl i ddau blentyn. Yn ddiweddarach, cafodd drydydd plentyn gan Alan Sharp, yr actores Rudi Davies (ganwyd 1965).[2] Roedd Sharp ar ddechrau ei yrfa fel nofelydd ac awdur sgriptiau. Yn ddiweddarach, byddai Bainbridge yn gadael i bobl feddwl mai ef oedd ei hail ŵr; mewn gwirionedd, ni wnaethant briodi erioed ond anogodd y berthynas hi i droi ei llaw at ffuglen.
Gyrfa
golyguTreuliodd Bainbridge ei blynyddoedd cynnar yn gweithio fel actores, ac y 1961 ymddangosodd mewn pennod o’r opera sebon Coronation Street yn chwarae protestiwr gwrth niwclear.
Er mwyn helpu i lenwi ei hamser, dechreuodd Bainbridge ysgrifennu, yn seiliedig yn bennaf ar ddigwyddiadau o'i phlentyndod. Gwrthodwyd ei nofel gyntaf, Harriet Said ..., gan sawl cyhoeddwr, a chanfu un ohonynt fod y cymeriadau canolog yn "wrthun bron y tu hwnt i gred". Fe’i cyhoeddwyd yn y pen draw ym 1972, bedair blynedd ar ôl ei thrydedd nofel (Another Part of the Wood). Cyhoeddwyd ei hail a'i thrydedd nofel (1967/68) ac fe'u derbyniwyd yn dda gan feirniaid er iddynt fethu ag ennill llawer o arian.[4][7] Ysgrifennodd a chyhoeddodd saith nofel arall yn ystod y 1970au, a dyfarnwyd gwobr Whitbread i'r bumed, Injury Time, am y nofel orau ym 1977.
Ar ddiwedd y 1970au, ysgrifennodd sgript sgrin yn seiliedig ar ei nofel Sweet William . Rhyddhawyd ffilm seiliedig ar y llyfr, yn serennu Sam Waterston, ym 1980.[8]
O 1980 ymlaen, ymddangosodd wyth nofel arall. Addaswyd nofel 1989, An Awfully Big Adventure, yn ffilm ym 1995, gyda Alan Rickman a Hugh Grant yn serennu.
Yn y 1990au, trodd Bainbridge at ffuglen hanesyddol. Parhaodd y nofelau hyn i fod yn boblogaidd gyda beirniaid, ond y tro hwn, roeddent hefyd yn llwyddiannus yn fasnachol.[4] Ymhlith ei nofelau ffuglen hanesyddol mae Every Man for Himself, am drychineb y Titanic ym 1912, yr enillodd Bainbridge Wobr Whitbread 1996 am y nofel orau, a Master Georgie, a osodwyd yn ystod Rhyfel y Crimea, yr enillodd Wobr James Tait Black am ffuglen 1998 amdani. Mae ei nofel olaf, According to Queeney, yn adroddiad wedi'i ffugio o flynyddoedd olaf bywyd Samuel Johnson fel y'i gwelir trwy lygaid Queeney Thrale, merch hynaf Henry a Hester Thrale. Cyfeiriodd yr Observer ati fel "... nofel hynod ddeallus, soffistigedig a difyr".[9]
O'r 1990au, bu Bainbridge hefyd yn feirniad theatr ar gyfer y cylchgrawn misol The Oldie . Anaml y byddai ei hadolygiadau yn cynnwys negyddol, ac fel rheol fe'u cyhoeddwyd ar ôl i'r ddrama gau.[4]
Ar ddiwedd y 1970au, ysgrifennodd sgript sgrin yn seiliedig ar ei nofel Sweet William . Rhyddhawyd ffilm seiliedig ar y llyfr, yn serennu Sam Waterston, ym 1980.[8]
Anrhydeddau a gwobrau
golyguYn 2000, fe’i penodwyd Bainbridge yn Fonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (DBE). Ym mis Mehefin 2001, dyfarnwyd gradd doethur er anrhydedd i Bainbridge gan y Brifysgol Agored.[10] Yn 2003, dyfarnwyd Gwobr Llenyddiaeth David Cohen iddi ar y cyd â Thom Gunn. Yn 2005, cafodd y Llyfrgell Brydeinig lawer o lythyrau a dyddiaduron preifat Bainbridge.[2] Yn 2011, dyfarnwyd anrhydedd arbennig iddi ar ôl ei marwolaeth gan bwyllgor Gwobr Booker.[11]
Blynyddoedd olaf
golyguYn 2003, dechreuodd ŵyr Bainbridge, Charlie Russell, ffilmio rhaglen ddogfen, Beryl's Last Year, am ei bywyd. Manylodd y rhaglen ddogfen ar ei magwraeth a'i hymdrechion i ysgrifennu nofel, Dear Brutus (a ddaeth yn ddiweddarach The Girl in the Polka Dot Dress ); fe'i darlledwyd yn y Deyrnas Unedig ar 2 Mehefin 2007 ar BBC Four .
Yn 2009, rhoddodd Bainbridge y stori fer Goodnight Children, Everywhere i brosiect Ox-Tales Oxfam, pedwar casgliad o straeon o'r DU a ysgrifennwyd gan 38 awdur. Cyhoeddwyd ei stori yn y casgliad "Air". Bainbridge oedd noddwr Gwobr Llyfr y Bobl.
Roedd Bainbridge yn dal i weithio ar The Girl in the Polka Dot Dress ar adeg ei marwolaeth. Mae'r nofel, a oedd yn seiliedig ar daith bywyd go iawn Bainbridge a wnaed ledled America ym 1968, yn ymwneud â'r ferch ddirgel yr honnir iddi fod yn rhan o lofruddiaeth Robert Kennedy. Golygwyd y nofel ar gyfer ei gyhoeddi gan Brendan King ac fe'i cyhoeddwyd ym mis Mai 2011 gan Little, Brown.[12]. Cyhoeddwyd cofiant King i Bainbridge Beryl Bainbridge: Love by All Sorts of Means ym mis Medi 2016.[13]
Marwolaeth
golyguBu farw Bainbridge yn 77 oed, mewn ysbyty yn Llundain ar ôl i'w chanser dychwelyd.[14][15] Claddwyd hi ym Mynwent Highgate .
Llyfryddiaeth
golyguNofelau
golygu- A Weekend with Claud (1967)
- Another Part of the Wood (1968)
- Harriet Said... (1972)
- The Dressmaker (1973)
- The Bottle Factory Outing (1974) (Gwobr Guardian)
- Sweet William (1975)
- A Quiet Life (1976)
- Injury Time (1977)
- Young Adolf (1978)
- Winter Garden (1980)
- Watson's Apology (1984)
- Filthy Lucre (1986)
- An Awfully Big Adventure (1989)
- The Birthday Boys (1991)
- Every Man for Himself (1996)
- Master Georgie (1998)
- According to Queeney (2001)
- The Girl in the Polka-dot Dress (2011)
Casgliadau o straeon byrion
golygu- Mum and Mr Armitage (1985)
- Collected Stories (1994)
- Northern Stories Vol. 5 (ar y cyd a David Pownall) (1994)
Ffeithiol
golygu- English Journey, or The Road to Milton Keynes (1984)
- Forever England: North and South (1987)
- Something Happened Yesterday (1993)
- Front Row: Evenings at the Theatre (2005)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Nicholas Wroe), "Filling in the gaps" (Beryl Bainbridge profile), The Guardian, 1 Mehefin 2002
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Hastings, Chris (12 Hydref 2005), "Beryl Bainbridge, a German prisoner of war and a secret love affair", The Daily Telegraph (London), https://www.telegraph.co.uk/news/main.jhtml?xml=/news/2005/12/11/nberyl11.xml&sSheet=/news/2005/12/11/ixhome.html, adalwyd 17 Tachwedd 2008
- ↑ Howard Gotlieb Archival Research Center, Boston University -Bainbridge, Beryl
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 Preston, John (24 Hydref 2005), "Every story tells a picture", Daily Telegraph, https://www.telegraph.co.uk/arts/main.jhtml?xml=/arts/2005/10/24/boberyl.xml&page=1, adalwyd 17 Ionawr 2008
- ↑ Levy, Paul (3 Gorffennaf 2010). "Dame Beryl Bainbridge: Novelist whose work began rooted in autobiography and which later developed to encompass historical subjects". The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-11-30. Cyrchwyd 2020-10-19.
- ↑ Higgins, Charlotte (25 Mai 2007), "Bainbridge is seen through a grandson's eyes", The Guardian (London, England), http://books.guardian.co.uk/hay2007/story/0,,2088035,00.html, adalwyd 17 Ionawr 2008
- ↑ Brown, Craig (4 Tachwedd 1978), "Beryl Bainbridge: an ideal writer's childhood", The Times: 14.
- ↑ 8.0 8.1 Canby, Vincent (18 Mehefin 1982), "Sweet William (1979)", The New York Times, https://movies.nytimes.com/movie/review?res=9D05E6DA103BF93BA25755C0A964948260, adalwyd 17 Ionawr 2008
- ↑ Sisman, Adam (2001-08-26). "Madness and the mistress". The Observer. Cyrchwyd 2013-05-08.
- ↑ "Dame Beryl Bainbridge, Doctor of the University" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 13 Rhagfyr 2013.Retrieved 4 Awst 2013.
- ↑ Man Booker Prize "Best of Beryl" Award, 8 Chwefror 2011
- ↑ Bradbury, Lorna (2010-05-07). "Beryl Bainbridge last masterpiece of ân obsessive". Daily Telegraph. Cyrchwyd 2011-05-10.,
- ↑ "Beryl Bainbridge. Love by All Sorts of Means: A Biography". Bloomsbury. 2016-02-24. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-06-16. Cyrchwyd 2016-02-24.,
- ↑ "Dame Beryl Bainbridge, novelist, died on July 2nd, aged 77". The Economist. 15 Gorffennaf 2010. Cyrchwyd 2010-12-25.
- ↑ Bainbridge had been a heavy smoker for much of her life. See The Economist obituary, 17 Gorffennaf 2010, p. 90.