Bhujapidasana

asana mewn ioga

Asana, neu osgo mewn ymarferion ioga yw Bhujapidasana (Sansgrit: भुजपीडासन; IAST: Bhujapīḍāsana) neu ystum gwasgu'r ysgwydd.[1] Mae'n asana cydbwyso a ddefnyddir mewn ioga modern fel ymarfer corff.[2] Ceir amrywiad, sef Eka Hasta Bhujasana (Yr Eliffant), gydag un goes wedi'i hymestyn yn syth ymlaen, fel trwnc.

Bhujapidasana
Math o gyfrwngasana Edit this on Wikidata
Mathasanas cydbwyso Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Geirdarddiad

golygu

Daw enw'r asana hwn o Bhuja (Sansgrit: भुज) sy'n golygu "braich" neu "ysgwydd", Pīḍa (Sansgrit: पीडा) sy'n golygu "pwysau" [2] ac Asana (Sansgrit: आसन) sy'n golygu "osgo" neu "safle'r corff".[3]

Disgrifir yr ystum yn yr 20g yn Ioga Makaranda gan Krishnamacharya ym 1935, ac fe'i cymerwyd gan ei ddisgyblion Pattabhi Jois yn ei gyhoeddiad Ioga ashtanga vinyasa a gan BKS Iyengar yn ei Light on Yoga.[2][4]

Amrywiadau

golygu

Mae gan Eka Hasta Bhujasana (Yr Eliffant) un goes wedi'i hymestyn yn syth ymlaen, rhwng y breichiau cynhaliol.[5]

Honnodd rhai ysgolion ioga yn yr 20g, megis BKS Iyengar, fod ioga'n dda i rai organau penodol, heb nodi unrhyw dystiolaeth o hynny.[6][7] Honnodd Iyengar fod yr asana hwn yn cryfhau'r dwylo, yr arddyrnau, a chyhyrau'r abdomen, ac yn gwneud i'r corff "deimlo'n ysgafn".[8]

Gweler hefyd

golygu

Llyfryddiaeth

golygu
  • Iyengar, B. K. S. (1979) [1966]. Light on Yoga: Yoga Dipika. Unwin Paperbacks. ISBN 978-1855381667.
  • Jain, Andrea (2015). Selling Yoga: from Counterculture to Pop culture. Oxford University Press. ISBN 978-0-19-939024-3. OCLC 878953765.
  • Newcombe, Suzanne (2019). Yoga in Britain: Stretching Spirituality and Educating Yogis. Bristol, England: Equinox Publishing. ISBN 978-1-78179-661-0.

Cyfeiriadau

golygu
  1. YJ Editors (7 Mai 2008). Shoulder-pressing posture. Yoga Journal. http://www.yogajournal.com/poses/2498.
  2. 2.0 2.1 2.2 Iyengar, B. K. S. (1979) [1966]. Light on Yoga. Schocken. tt. 280–282. ISBN 0-8052-1031-8.
  3. Sinha, S. C. (1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
  4. Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. tt. 100, 102. ISBN 81-7017-389-2.
  5. YJ Editors (30 Awst 2010). "Challenge Pose: Eka Hasta Bhujasana". Yoga Journal. Cyrchwyd 8 Chwefror 2019.
  6. Newcombe 2019, tt. 203-227, Chapter "Yoga as Therapy".
  7. Jain 2015, tt. 82–83.
  8. Iyengar 1979.