Actor, bardd a chynhyrchydd radio a theledu o Gymro a anwyd yn Nhrawsfynydd yw Ynyr Williams (ganwyd 1959). Derbyniodd ei addysg o Brifysgol Aberystwyth.

Ynyr Williams
GanwydYnyr Williams
1959
Trawsfynydd
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma materPrifysgol Aberystwyth
Galwedigaethactor, bardd a chynhyrchydd teledu a radio
Cysylltir gydaBBC Cymru
PriodBetsan Llwyd

Bu'n aelod o Gwmni Theatr Cymru o dan arweiniad Emily Davies ar gychwyn y 1980au, cyn newid gyrfa, a throi'n gynhyrchydd teledu a radio. Rhwng 2007 a 2015 bu’n gyfrifol am y gyfres boblogaidd Pobol Y Cwm, cyn cael ei benodi yn Olygydd Cynnwys BBC Radio Cymru am chwe blynedd. Rhwng 2010 a 2021, bu'n gyfrifol am ochr ddarlledu’r Eisteddfod Genedlaethol i’r BBC.[1]

Cafodd ei urddo i'r Wisg Las yng Ngorsedd Y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda, Cynon Taf 2024.[1]

Mae'n briod â'r actores a'r cyfarwyddydd Betsan Llwyd ac wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd.

Gyrfa fel actor

golygu

Theatr

golygu

Teledu a ffilm

golygu

Gyrfa fel cynhyrchydd a chyfarwyddwr

golygu

Teledu

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Anrhydeddau Gorsedd Cymru 2024: Gwisg Las | Eisteddfod". eisteddfod.cymru. Cyrchwyd 2024-09-20.
  2. "Ynyr Williams | Producer, Actor". IMDb (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-20.
  3. "BBC - Press Office - Ynyr Williams joins Pobol y Cwm". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2024-09-20.