Bioleg forol

(Ailgyfeiriad o Bioleg fôr)

Bioleg forol yw'r gangen o fioleg sy'n ymwneud ag astudio bywyd yn y môr a'r dyfroedd. Gellid ei diffinio fel yr astudiaeth wyddonol o'r planhigion, anifeiliad ac organebau eraill sy'n byw yn y môr neu unrhyw gorff arall o ddŵr.

Bioleg forol
Enghraifft o'r canlynolcangen o fywydeg, disgyblaeth academaidd, pwnc gradd, maes astudiaeth, arbenigedd Edit this on Wikidata
Mathaquatic biology, hydrobiology Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gan fod nifer o rywogaethau, yn ôl y dosbarthiadau biolegol yn phyla, teuluoedd a genera, yn cynnwys rhai aelodau sy'n byw yn y môr ac eraill sy'n byw ar y tir, mae bioleg forol yn eu dosbarthu yn ôl eu amgylchedd naturiol yn hytrach na'u tacsonomeg draddodiadol.

Mae yna sawl reswm dros astudio bioleg y môr. Mae bywyd morol yn adnodd anferth, sy'n cynnig bywyd, meddyginiaeth, a deunyddiau crai, yn ogystal â chwarae rhan bwysig mewn twristiaeth ledled y byd. Mae bywyd morol yn un o'r ffactorau crai yn natur ein planed. Mae organebau morol, yn enwedig y plancton, yn cynhyrchu llawer o'r ocsigen rydym yn ei anadlu ac yn chwarae rhan bwysig, mae'n ymddangos, mewn rheoli hinsawdd y Ddaear. Mae arfordiroedd yn cael eu newid a'i hamddiffyn gan fywyd morol i raddau yn ogystal, ac mae rhai organebau morol hyd yn oed o gymorth yn y broses o greu tir newydd.

Eginyn erthygl sydd uchod am fioleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.