Blodyn Mihangel/Ffarwel Haf
Aster amellus | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Unrecognized taxon (fix): | Aster |
Rhywogaeth: | A. amellus |
Enw deuenwol | |
Aster amellus L. | |
Cyfystyron | |
Several, including:
|
Aster amellus | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Cytras: | Tracheophytes |
Cytras: | Angiosperms |
Cytras: | Eudicots |
Cytras: | Asterids |
Trefn: | Asterales |
Teulu: | Asteraceae |
Genws: | Aster |
Rhywogaeth: | A. amellus
|
Enw binomial | |
Aster amellus | |
Cyfystyron | |
Several, including:
|
Planhigyn llysieuol lluosflwydd yn y genws Aster o'r teulu Asteraceae yw Aster amellus, neu'n y Gymraeg, Blodyn Mihangel/Ffarwel Haf, .
Etymoleg
golyguGwelir defnyddio'r enw penodol amellus gyntaf yn y Georgics (Llyfr IV, 271–280), cerdd i'r bardd Lladin Publius Vergilius Maro (70 BCE – 19 BCE), ond mae'r eirdarddiad yn aneglur ac yn ansicr.
Mae'r enw cyffredin Saesneg yn deillio o'r ffaith bod y planhigyn yn ei flodau yn ystod Gŵyl Mihangel (Gwledd Mihangel Sant yr archangel). [1]
Disgrifiad
golyguAr gyfartaledd mae Aster amellus yn cyrraedd uchder o 20-50cm. Mae'r coesyn yn unionsyth ac yn ganghennog, mae'r dail yn wyrdd tywyll. Mae'r dail gwaelodol yn wrthwyffurf a deilgoesog, mae'r rhai sydd yn tyfu ar y coesyn ei hun yn bob yn ail a digoes, yn gynyddol gulach ac yn hirfain. Mae'r blodau yn lelog. Mae'r cyfnod blodeuo yn ymestyn o fis Gorffennaf i fis Hydref. Mae'r blodau hermaphroditig naill ai'n hunan-ffrwythloni ( awtogami ) neu'n cael eu peillio gan bryfed ( entomogami ). Mae'r hadau yn achennog a yn aeddfedu ym mis Hydref.
Dosbarthiad
golyguMae'r planhigyn hwn yn bresennol ar fynyddoedd Ewrop o'r Pyreneau a'r Alpau i'r Carpathiaid . Y tu allan i Ewrop mae wedi'i leoli yng ngorllewin Asia ( Twrci ), y Cawcasws, Siberia, De Asia ( Uttarakhand, India ) a Chanolbarth Asia ( Kazakhstan ).
Amaethu
golyguMae'r aster yn cael ei werthfawrogi yn yr ardd ar gyfer lliw diwedd yr haf a'r hydref mewn lliwiau glas, pinc a gwyn. Mae gan y rhywogaeth hon sawl cyltifar o ddefnydd gardd addurniadol. Mae'r canlynol wedi ennill Gwobr Teilyngdod Gardd y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol :-
Cynefin
golyguY cynefin nodweddiadol yw ardaloedd calchaidd creigiog, ymylon y llwyni a'r coedlannau, ond hefyd y dolydd is-alpaidd, mannau corsiog ac ochrau llynnoedd. Mae'n well ganddo swbstrad calchaidd ac ychydig yn sych gyda pH sylfaenol a gwerth maethol isel, ar uchder o 0-800 medr uwchben lefel y môr.
Cyfystyron
golygu
|
|
Mewn llenyddiaeth
golyguThe Michaelmas Daisy. oedd un o bennillion cynharaf Letitia Elizabeth Landon iw gael ei gyhoeddi (1820).
Oriel
golygu-
Enghraifft o waith "Flora von Deutschland, Österreich und der Schweiz", 1885
-
Blodau'r Aster amellus
-
Aster amellus (Ffarwel Haf)
-
Hadau
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Michaelmas Daisy". monrovia.com. Cyrchwyd 2020-12-30.
- ↑ "RHS Plant Selector Aster amellus 'Framfieldii' AGM / RHS Gardening". Apps.rhs.org.uk. Cyrchwyd 2020-04-15.
- ↑ "RHS Plant Selector Aster amellus 'Jacqueline Genebrier' AGM / RHS Gardening". Apps.rhs.org.uk. Cyrchwyd 2020-04-15.
- ↑ "RHS Plant Selector Aster amellus 'King George' AGM / RHS Gardening". Apps.rhs.org.uk. Cyrchwyd 2020-04-15.
- ↑ "RHS Plant Selector Aster amellus 'Veilchenkönigin' AGM / RHS Gardening". Apps.rhs.org.uk. Cyrchwyd 2020-04-15.
- ↑ "Aster × frikartii 'Mönch'". RHS. Cyrchwyd 12 April 2020.
- Planhigion ar gyfer Dyfodol Archifwyd 2023-01-19 yn y Peiriant Wayback
- Pignatti S. - Flora d'Italia (3 cyf. ) - Edagricole - 1982, Cyf. III, tudalen. 20
Dolenni allanol
golygu- Cyfryngau perthnasol Aster amellus ar Gomin Wicimedia
- Zipcodezoo Database