Bochdew Syriaidd
Bochdew Syriaidd | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Is-ffylwm: | Vertebrata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Rodentia |
Is-urdd: | Myomorpha |
Uwchdeulu: | Muroidea |
Teulu: | Cricetidae |
Is-deulu: | Cricetinae |
Genws: | Mesocricetus |
Rhywogaeth: | M. auratus |
Enw deuenwol | |
Mesocricetus auratus Waterhouse, 1839 |
Math o fochdew yw'r bochdew Syriaidd neu'r bochdew aur.
Darganfuwyd y bochdew Syriaidd cyntaf yn yr oes fodern ym 1839 yn Syria gan y sŵolegydd George Robert Waterhouse o Brydain. Arddangosir ffwr y sbesimen oedrannus, benywol a ddarganfu Waterhouse yn yr Amgueddfa Brydeinig. Ni rhoddwyd unrhyw sylw i astudiaeth y rhywogaeth am ganrif arall.[1]
Yn hwyr y 1920au darganfuodd yr Athro Israel Aharoni, ysgolhaig Iddewig o Balesteina oedd yn arbenigo mewn hen destunau Hebraeg ac Aramaeg, ddarn mewn un o'r testunau hynafol yr oedd yn astudio a dywed unwaith "yn ardal Chaleb bu fath arbennig o lygoden Syriaidd, a ddyfodwyd i Assyria a gwlad yr Hethiaid", ac oedd yn disgrifio natur ddof y creaduriaid a'r ffordd bu plant yn hen Assyria ac Anatolia yn eu cadw mewn cewyll. Er roedd y testun yn ei wneud yn glir nad llygod arferol oedd y creaduriaid, nid oedd Aharoni yn ymwybodol o unrhyw anifail cyfoes oedd yn bodloni'r disgrifiad. Ym 1930 fe aeth Aharoni i ddinas Aleppo, safle Chaleb, yn Syria i geisio chwilio am yr anifail. Ni ddaeth ar draws unrhyw un oedd yn ymwybodol o anifail o'r fath, ond yn y cefn gwlad fe ddarganfuodd tri ar ddeg o fochdewion coch-frown eu lliw, oedd yn llai o faint nag unrhyw rywogaeth hysbys, mewn tyrchfa ddaear. Am amser credai mae'r rhain oedd yr unig fochdewion Syriaidd oedd ar ôl yn y byd, gan nad oedd ymchwil maes pellach wedi darganfod unrhyw aelodau eraill o'r rhywogaeth yn y gwyllt.[2] Llwyddodd ddwy alldaith ym 1997 a 1999 i ddarganfod tri bochdew Syriaidd ar ddeg, chwe benyw a saith gwryw, ger Aleppo, nid yr un ohonynt mewn tyrchfa oedd ag mwy nag un oedolyn.[3]
Erbyn 1931 roedd gan y bochdewion a ddarganfu Aharoni wyrion, ac roeddent yn bridio ar gyfradd gyflym iawn. O fewn ychydig o flynyddoedd roeddent yn agos at gymryd lle'r mochyn cwta fel anifail ymchwil mewn labordai ac fel anifail anwes yn yr Unol Daleithiau. Cyflwynodd gwyddonwyr Americanaidd y bochdew Syriaidd i wyddonwyr Seisnig yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac ym 1946 fe gyflwynwyd yr anifail i'r Almaen gan filwyr y Cynghreiriaid. O fewn ychydig yn fwy na deng mlynedd roedd dros 10 miliwn o fochdewion Syriaidd yn Ewrop.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Hamster breeds: The Syrian hamster Archifwyd 2009-02-14 yn y Peiriant Wayback
- ↑ 2.0 2.1 May & Marten, tud. 81
- ↑ Letterman ET AL. 2001. Notes on the current distribution and the ecology of wild golden hamsters (Mesocricetus auratus). Journal of Zoology, 254: 359-365 (Cambridge University Press). Online abstract
Ffynhonnell
golygu- May, John & Marten, Michael. Animal Oddities. 1982, argraffiad 1983.