Bosnieg
Iaith a siaredir yn Bosnia-Hertsegofina a rhai gwledydd cyfagos yw Bosnieg (bosanski jezik / босански језик). Mae'n iaith swyddogol yn Bosnia-Hertsegofina, a cheir siaradwyr mewn rhai gwledydd eraill, gyda tua 5,500,000 o siaradwyr i gyd.
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol |
iaith, iaith fyw, amrywiolyn iaith ![]() |
Math |
Serbo-Croateg ![]() |
Rhan o |
Ieithoedd Indo-Ewropeaidd ![]() |
![]() | |
Enw brodorol |
Bosanski jezik ![]() |
Nifer y siaradwyr |
|
cod ISO 639-1 |
bs ![]() |
cod ISO 639-2 |
bos ![]() |
cod ISO 639-3 |
bos ![]() |
Gwladwriaeth |
Bosnia a Hertsegofina, Croatia, Montenegro, Twrci ![]() |
System ysgrifennu |
Glagolitic, Bosnian Cyrillic, Arebica, Gaj's Latin alphabet, Serbian Cyrillic alphabet ![]() |
![]() |

Mae Bosnieg yn rhan o'r grŵp o ieithoedd De Slafonaidd a elwir wrth yr enw Serbo-Croateg, sydd hefyd yn cynnwys Croateg a Serbeg. Arferid meddwl am Serbo-Croateg fel un iaith, ac mae llawer o ieithyddwr yn y gorllewin yn dal i ystyried fod hyn yn wir. Fodd bynnag, gyda diflaniad Iwgoslafia, daethpwyd i feddwl am Serbeg, Bosnieg a Chroateg fel ieithoedd ar wahân, er eu bod cywair safonol pob un yn seiliedig ar yr un dafodiaith yn union. Gellid disgrifio Serbeg, Bosnieg a Montenegreg fel amrywiaethau ieithyddol, sydd ag enw gwahanol ac wedi eu safoni ar wahân.