Bosneg

iaith
(Ailgyfeiriad o Bosnieg)

Iaith a siaredir ym Mosnia a Hertsegofina a rhai gwledydd cyfagos yw Bosneg[1] (bosanski jezik / босански језик). Mae'n iaith swyddogol ym Mosnia a Hertsegofina, a cheir siaradwyr mewn rhai gwledydd eraill, gyda tua 5,500,000 o siaradwyr i gyd.

Bosneg
Enghraifft o'r canlynolstandard variety, amrywiolyn iaith Edit this on Wikidata
MathEastern Herzegovinian Edit this on Wikidata
Enw brodorolbosanski jezik Edit this on Wikidata
Nifer y siaradwyr 
  • 3,500,000 (2008)
  • cod ISO 639-1bs Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-2bos Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-3bos Edit this on Wikidata
    GwladwriaethBosnia a Hertsegofina, Croatia, Montenegro, Twrci Edit this on Wikidata
    System ysgrifennuGaj's Latin alphabet Edit this on Wikidata
    Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
    Gramadeg Fosneg (Sarajevo, 1890).

    Mae Bosneg yn rhan o'r grŵp o ieithoedd De Slafonaidd a elwir wrth yr enw Serbo-Croateg, sydd hefyd yn cynnwys Croateg a Serbeg. Arferid meddwl am Serbo-Croateg fel un iaith, ac mae llawer o ieithyddion yn y gorllewin yn dal i ystyried fod hyn yn wir. Fodd bynnag, gyda diflaniad Iwgoslafia, daethpwyd i feddwl am Serbeg, Bosneg a Chroateg fel ieithoedd ar wahân, er eu bod cywair safonol pob un yn seiliedig ar yr un dafodiaith yn union. Gellid disgrifio Serbeg, Bosneg a Montenegreg fel amrywiaethau ieithyddol, sydd ag enw gwahanol ac wedi eu safoni ar wahân.

    Cyfeiriadau golygu

    1.  Bosneg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 5 Rhagfyr 2023.
      Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.