Britheg Niobe
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Nymphalidae
Genws: Argynnis
Rhywogaeth: A. niobe
Enw deuenwol
Argynnis niobe
(Linnaeus, 1758)

Glöyn byw eitha mawr, sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera, yw britheg Niobe, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy brithegion Niobe; yr enw Saesneg yw Niobe Fritillary, a'r enw gwyddonol yw Argynnis niobe.[1][2] Mae i'w ganfod yng nghanol a de Ewrop a Siberia, Rwsia, Iran, Tsieina, a Corea.[3]

Mae lled ei adenydd agored rhwng 46–60 mm a gall fyw hyd at 2,400 metr uwchlaw lefel y môr. Prif fwyd y siani flewog ydy Viola tricolor a Plantago lanceolata.

Ochr isaf

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae britheg Niobe yn lindysyn sydd yn bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  3. Informatio on Niobe Fritillary