Deifr
Teyrnas Eingl-Sacsonaidd yng ngogledd-ddwyrain Lloegr yn y 6g oedd Deifr (Saesneg: Deira). Ymestynnai o Afon Humber hyd Afon Tees, ac o'r môr hyd ymyl gorllewinol Dyffryn Efrog. Yn ddiweddarach fe'i cyfynwyd a Brynaich (Bernicia) i'r gogledd i ffurfio teyrnas Northumbria.
Enghraifft o'r canlynol | gwlad ar un adeg, teyrnas |
---|---|
Daeth i ben | 655 |
Label brodorol | Deren Rīce |
Dechrau/Sefydlu | c. 450 |
Olynwyd gan | Northumbria |
Enw brodorol | Deren Rīce |
Gwladwriaeth | Deifr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae enw'r deyrnas o darddiad Brythoneg, efallai'n golygu "dyfroedd", fel y gair 'dwfr'. Y brenin Eingl cyntaf a gofnodir yw Ælla, y dywedir iddo gipio'r deyrnas oddi ar y Brythoniaid yn 581. Wedi ei farwolaeth ef, cipiwyd Deifr gan Æthelfrith, brenin Bernicia, ac unodd ef y ddwy deyrnas. Yn ddiweddarach daeth mab Ælla, Edwin, yn frenin y ddwy deyrnas yn 616 neu 617, a theyrnasodd hyd 633.
Deifr oedd gelyn teyrnas Gododdin yn yr ymladd a ddisgrifir yn Y Gododdin, rywbryd o gwmpas y flwyddyn 600.
Llyfryddiaeth
golygu- Geake, Helen & Joanthan Kenny (gol.) (2000). Early Deira: Archaeological studies of the East Riding in the fourth to ninth centuries AD. Rhydychen: Oxbow. ISBN 1-900188-90-2
- Higham, N.J. (1993). The Kingdom of Northumbria AD 350-1100. Stroud: Sutton. ISBN 0-86299-730-5