Brwydr Llandeilo Fawr
Brwydr Llandeilo Fawr ar 16 Mehefin 1282 yng nghyffiniau Llandeilo Fawr (Llandeilo, Sir Gaerfyrddin) rhwng byddin o wŷr Deheubarth a oedd yn ffyddlon i Lywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru a byddin o Saeson. Roedd yn rhan o Ail Ryfel Annibyniaeth Cymru 1282-83 ac yn y frwydr hon cafodd y Cymry fuddugoliaeth.
Math | brwydr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | goresgyniad Edward I |
Lleoliad | Llandeilo |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.884°N 3.996°W |
Cyfnod | 17 Mehefin 1282 |
Cefndir
golyguPan ymosododd y brenin Edward I o Loegr ar y Gymru annibynnol yn haf 1282, rhannodd ei luoedd yn dair byddin fawr gyda'r bwriad o amgylchynu byddin Llywelyn a'i dinistrio. Ymosododd dwy o'r byddinoedd hyn ar y Berfeddwlad yn y gogledd-ddwyrain a Teyrnas Powys yn y canolbarth. Yn y de, trefnwyd y drydedd fyddin dan orchymyn Gilbert de Clare, 7fed Iarll Henffordd gyda'r bwriad o gipio Ystrad Tywi a tharo i fyny trwy Geredigion i gyfeiriad Gwynedd.
Y frwydr
golyguErbyn dechrau Mehefin 1282, roedd Gilbert de Clare wedi arwain ei fyddin i Ystrad Tywi a sefydlu garsiynau yng nghestyll Caerfyrddin a Dinefwr. Gyda tua 1600 o filwyr traed a thua 100 o farchogion, cipiodd Gastell Carreg Cennen hefyd. Anrheithwyd y castell brenhinol gan y Saeson.
Ond ar yr 16 o Fehefin, wrth ddychwelyd o Garreg Cennen i Ddinefwr, braidd yn anhrefnus mae'n ymddangos, ymosododd y Cymry arnynt yn sydyn. Roedd y rhan hon o Ystrad Tywi yn adnabyddus am ei choedwigoedd brigdew ac mae'n debyg fod y Cymry wedi manteisio ar hynny. Cafwyd lladdfa gwaedlyd. Lladdwyd y milwyr a marchogion Seisnig i gyd bron. Y golled fwyaf oedd lladd mab William de Valence, Iarll 1af Penfro. Ymddengys nad oedd Gilbert de Clare ei hun yn bresennol. Nid oes cofnod o golledion y Cymry ond derbynnir eu bod yn isel.
Roedd hyn yn ysgytwad mawr i gynlluniau Edward I. Mewn ymateb, cymerodd orchymyn byddin Seisnig y de oddi ar Gilbert de Clare a'i roi i William de Valence a oedd yn benderfynol o ddial lladd ei fab.
Ffynonellau
golygu- J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986), tt. 353-4.
- David Stephenson, The Last Prince of Wales: Llywelyn and King Edward: the End of the Welsh Dream, 1282-3 (Barracuda Books, 1983), t. 40.