Brwydr Meicen (Hatfield)
Brwydr a ymladdwyd oddeutu'r flwyddyn 632 oedd Brwydr Meicen (neu Brwydr Meigen) (Meigen: Heathfield yn Saesneg, sef Hatfield Chase yn Swydd Efrog yn ôl pob tebyg). Dyma'r cofnod cyntaf i Gymry (neu Frythoniaid fel y'u gelwyd yr adeg yma) a Saeson ymuno mewn cynghrair yn erbyn brenin Eingl-Sacsonaidd.
Brwydr Meicen Battle of Hatfield Chase |
|||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Ffenestr liw gyda llun Edwin yn Eglwys y Santes Fair, Sledmere, Swydd Efrog. |
|||||||
|
|||||||
Rhyfelwyr | |||||||
Gwynedd, Mersia | Deifr a Brynaich | ||||||
Arweinwyr | |||||||
Cadwallon ap Cadfan Penda Eowa? | Edwin Osfrith Eadfrith (daliwyd) |
Etifeddodd Cadwallon ap Cadfan deyrnas Gwynedd ar farwolaeth ei dad, Cadfan ap Iago. Ymosododd Edwin, brenin Deifr (Northumbria heddiw) ar Wynedd gan gyrraedd cyn belled ag Ynys Môn, gan orfodi Cadwallon i ffoi i Ynys Lannog ac yna i Iwerddon. Yn ôl yr Annales Cambriae digwyddodd hyn yn 629.
Daeth Cadwallon i gytundeb â Penda, brenin Mersia, ac ymosododd y ddau ar Northumbria. Lladdwyd Edwin ym Mrwydr Meicen.[1] Dyma'r cofnod cyntaf i Gymry a Saeson ymuno mewn cynghrair fel hyn.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ John Davies, Hanes Cymru (Penguin, 1990), t.62