Brych gyddfddu
Brych gyddfddu Turdus ruficollis atrogularis | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Turdidae |
Genws: | Turdus[*] |
Rhywogaeth: | Turdus atrogularis |
Enw deuenwol | |
Turdus atrogularis
|
Bronfraith gymharol fawr yw'r Brych gyddfddu (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: brychion gyddfddu) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Turdus ruficollis atrogularis; yr enw Saesneg arno yw Black-throated thrush. Mae'n perthyn i deulu'r Brychion (Lladin: Turdidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain, ond nid yng Nghymru. Caidd ei ystyried weithiau gan naturiaethwyr fel isrywogaeth, ac felly hefyd ei chwaer, sef y Brych gyddfgoch (Turdus ruficollis ruficollis),[2] ond yn ddiweddar mae'r mwyafrif o naturiaethwyr yn eu cyfrif yn rhywogaethau ar whahân.[3]
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn T. ruficollis atrogularis, sef enw'r rhywogaeth.[4] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia ac Ewrop.
Mae'n aderyn mudol, gyda'i diriogaeth yn debyg iawn i'w chwaer, y Brych gyddfgoch (Turdus ruficollis ruficollis).
Disgrifiad
golyguMae'n fronfraith gymharol fawr sy'n ddigon hawdd i'w hadnabod. Mae gan y gwryw fron ddu - o'i ên i waelod ei frest, gyda chynffon llwyd-ddu. Mae'r rhan uchaf hefyd yn llwyd a'r rhan isaf yn wyn gyda'r adain oddi tanynt yn orengoch.
Cynefin
golyguMae'r Brychion gyddfddu'n paru ar fin ac ar ffiniau coedwigoedd, llannerch goediog - yn enwedig codwig gydag amrywiaeth o goed collddail. Yn aml, gwnant eu nyth ym mhrysgwydd sef yr isdyfiant y Pinus sibirica neu'r befrwydden, yn enwedig wrth ymyl tir corsiog a llynnoedd bychan.
Teulu
golyguMae'r brych gyddfddu yn perthyn i deulu'r Brychion (Lladin: Turdidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Bronfraith | Turdus philomelos | |
Bronfraith Mongolia | Turdus mupinensis | |
Brych Grand Cayman | Turdus ravidus | |
Brych gyddfddu | Turdus atrogularis | |
Brych gyddfgoch | Turdus ruficollis | |
Brych tywyll America | Turdus nigrescens | |
Brych y coed | Turdus viscivorus | |
Coch dan adain | Turdus iliacus | |
Mwyalchen | Turdus merula | |
Mwyalchen y mynydd | Turdus torquatus | |
Socan eira | Turdus pilaris |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Clement, Peter; Hathway, Ren; Wilczur, Jan (2000). Thrushes (Helm Identification Guides). Christopher Helm Publishers Ltd. tt. 377–381. ISBN 0-7136-3940-7.
- ↑ British Ornithologists’ Union Records Committee (2009). "British Ornithologists’ Union Records Committee: 37th Report (Hydref 2008)". Ibis 151: 224–230. doi:10.1111/j.1474-919x.2008.00901.x. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2011-07-17. https://web.archive.org/web/20110717232817/http://www.pdfdownload.org/pdf2html/view_online.php?url=http:%2F%2Fwww2.mnhn.fr%2Fcrbpo%2FIMG%2Fpdf%2FBOURC_2009_Ibis_151_1_.pdf.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.