Brych coed
Brych coed Turdus viscivorus | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Turdidae |
Genws: | Turdus[*] |
Rhywogaeth: | Turdus viscivorus |
Enw deuenwol | |
Turdus viscivorus
| |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Brych coed (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: brychion coed) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Turdus viscivorus; yr enw Saesneg arno yw Mistle thrush. Mae'n perthyn i deulu'r Brychion (Lladin: Turdidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn T. viscivorus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia ac Ewrop.
Mae Brych y Coed yn edrych yn debyg iawn i'r Fronfraith ar yr olwg gyntaf, ond mae yn aderyn mwy na'r Fronfraith ac yn edrych yn fwy llwyd ar y pen a'r cefn a llai o liw browngoch ar y fron. Nid yw'n aderyn mudol fel rheol, ond mae adar sy'n nythu yn y gogledd yn symud tua'r de yn y gaeaf. Yn y gaeaf maent weithiau yn dod at ei gilydd yn heidiau ond anaml y gwelir mwy na rhyw 30 gyda'i gilydd. Maent yn nythu mewn coed fel rheol.
Pryfed ac aeron yw eu prif fwyd. Yn y gaeaf maent yn aml yn amddiffyn coeden sy'n llawn o aeron, gan ymlid unrhyw aderyn arall sy'n ceisio eu bwyta. Mae'n aderyn cyffredin yng Nghymru er ei fod yn llai adnabyddus na'r Fronfraith.
Teulu
golyguMae'r brych coed yn perthyn i deulu'r Brychion (Lladin: Turdidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Bronfraith | Turdus philomelos | |
Bronfraith Mongolia | Turdus mupinensis | |
Brych Grand Cayman | Turdus ravidus | |
Brych gyddfddu | Turdus atrogularis | |
Brych gyddfgoch | Turdus ruficollis | |
Brych tywyll America | Turdus nigrescens | |
Brych y coed | Turdus viscivorus | |
Coch dan adain | Turdus iliacus | |
Mwyalchen | Turdus merula | |
Mwyalchen y mynydd | Turdus torquatus | |
Socan eira | Turdus pilaris |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.