Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Cymru

Mae Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn un o Ardaloedd Harddwch Naturiol Eithriadol Cymru (AHNE).

Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
MathArdal o Harddwch Naturiol Eithriadol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlBryniau Clwyd, Afon Dyfrdwy Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 22 Tachwedd 2011 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir y Fflint, Sir Wrecsam, Sir Ddinbych
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.13°N 3.225°W Edit this on Wikidata
Map

Awgrymiadau i ddod yn Barc Cenedlaethol

golygu

Mae awgrymiadau wedi bod i wneud yr ardal yn bedwerydd o Barciau Cenedlaethol Cymru. Cynigwyd hyn gan Blaid Llafur Cymru yn 2021.[1][2]

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Cyfoeth Naturiol Cymru i asesu'r rhagolwg greu Parc cenedlaethol Gogledd Ddwyrain Cymru yn seiliedig ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Bydd hyn yn cael ei hystyried yn nhymor 2021-26 y Senedd. Dyma yw'r Parc Cenedlaethol cyntaf i gael ei ystyried yng Nghymru ers bron 70 mlynedd.[3]

Cynhelir ddigwyddiadau ymgysylltu ynglyn â photential creu'r parc newydd ym mis Hydref a mis Tachwedd 2023.[4]

Mi fydd cyfnodau ymgynghori cyhoeddus hefyd ym mis Hydref 2024 a 2025 ac mae'n bosib y bydd ffiniau y parc yn cael eu haddasu. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi clustnodi £700,000 y flwyddyn rhwng yn y cyfnod 2022-25 ar gyfer y parc newydd. Y gweinidog materion gwledig, Lesley Griffiths fydd yn gwneud y penderfyniad terfynnol ac mae'r llywodraeth yn bwriadau gallu gwneud hyn cyn Etholiad nesaf Senedd Cymru yn 2026.[5]

Mae'r ardal a gynigwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn cynnwys yr AHNE i gyd yn pgystal a rhan o ogledd gogledd Powys, Llyn Efyrnwy a rhan o Wynedd sy'n ffinio a pharc Eryri.[5]

 
Crëyr glas, Llandegla




Cyfeiriadau

golygu
  1. "Ymateb cymysg i'r syniad o greu parc cenedlaethol". BBC Cymru Fyw. 2021-04-30. Cyrchwyd 2023-09-13.
  2. "Parc Cenedlaethol arall i Gymru?". newyddion.s4c.cymru. 2023-09-13. Cyrchwyd 2023-09-13.
  3. "Prosiect Dynodi Parc Cenedlaethol Gogledd Ddwyrain Cymru". Clwydian Range and Dee Valley AONB. Cyrchwyd 2023-09-13.
  4. Mansfield, Mark (2023-09-12). "Public events for first look at new National Park plans announced". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-13.
  5. 5.0 5.1 "Parc Cenedlaethol newydd - pryd, ble a pham?". BBC Cymru Fyw. 2023-11-20. Cyrchwyd 2023-11-21.